2 Damcaniaethau mentora
Nod y berthynas rhwng y mentor a’r athro ar ddechrau ei yrfa yw caniatáu’r athro ar ddechrau ei yrfa i ddysgu a chymryd ei le mewn proffesiwn cymhleth sy’n newid drwy’r amser. Yn ôl Cain (2009), mae dwy ddamcaniaeth fentora: y cyntaf yw bod y mentor yn hyrwyddo dysgu drwy fyfyrio, a’r ail yw bod dysgu yn digwydd drwy fodel prentisiaeth. Mae’r ddau o’r rhain yn cyseinio â’r syniad o feithrin athro ar ddechrau ei yrfa i ymgymryd â rôl athro. Wedi dweud hynny, mae Lave a Wenger (1991) yn ystyried dysgu fel cyfrannu’n fwyfwy at gymuned o ymarfer a all ddamcaniaethu’n well cymlethdodau rôl y mentor o ran cynorthwyo myfyriwr i ddatblygu ei hunaniaeth broffesiynol fel athro.