Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)
Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch ar y cwrs hwn i olrhain eich dysg.

2.1 Dysgu drwy fyfyrio

Mae’n debyg mai Dewey (1933) a Schön (1987) yw’r damcaniaethwyr mwyaf adnabyddus sy’n gweld myfyrio fel adnodd pwysig mewn dysg broffesiynol. Gall myfyrio alluogi athro ar ddechrau ei yrfa i ddefnyddio syniadau damcaniaethol neu’r syniadau a hyrwyddir gan y cwricwlwm cenedlaethol ym mhrysurdeb y dosbarth. Mae’n ffordd o wneud cyswllt agosach rhwng camau gweithredu proffesiynol athro ar ddechrau ei yrfa â’r gwerthoedd mae’n eu cefnogi.

Yn y bôn, ystyrir myfyrio ‘yn rhywbeth da’, ond mae hefyd yn ffordd o feddwl sy’n anodd ei chyflawni ar lefel ddigonol i wneud gwahaniaeth. Gall athrawon ar ddechrau eu gyrfa fyfyrio ar eu profiad a defnyddio ymarfer myfyriol i geisio datrysiadau i broblemau cymhleth. Gall archwilio ‘eu sefyllfa ddelfrydol’ a pha ffactorau all gyfyngu ar gyflawni’r sefyllfa ddelfrydol honno ysgogi’r dyfnder myfyrio a fydd yn arwain at ddysgu. Yn y ddamcaniaeth hon, rôl y mentor yw annog yr athro ar ddechrau ei yrfa i archwilio a gwneud yn amlwg ei gredoau a’i werthoedd personol, er mwyn ysgogi ei gymwyseddau a chynllunio ffyrdd newydd a gwell o weithredu yn y dosbarth.

Mae anawsterau gyda seilio mentora ar y ddamcaniaeth hon. Mae’r rhain yn cynnwys dod o hyd i le myfyriol yn yr ysgol lle ellir archwilio credoau a theimladau fel hyn, a hefyd dod o hyd i’r amser angenrheidiol i ddatrys materion. Mae amser yn broblem fawr yn y berthynas fentora, yn enwedig pan mae angen rhywbeth wedi’i drefnu ar fyfyriwr, ac mae eisiau eich safbwynt ar sut i addysgu cysyniad anodd, neu angen i chi lofnodi ffurflen, ac ati.

Gweithgaredd 3 Cefnogi myfyrio mewn sefyllfaoedd gwahanol

Timing: Caniatewch oddeutu 20 munud

Ystyriwch y sefyllfaoedd isod a nodwch sut fyddech chi’n cefnogi myfyrio ym mhob sefyllfa.

Sefyllfa Sut allaf gefnogi myfyrio yn effeithiol?
Rydych chi’n gwneud gwaith yn y dosbarth wrth i’r athro ar ddechrau ei yrfa gynnal gwers olaf y diwrnod. Mae’r athro ar ddechrau ei yrfa yn gosod gwaith sy’n llawer rhy hawdd i’r dysgwyr, ac maent yn dechrau colli eu ffocws. Mae gennych gyfarfod yn syth ar ôl ysgol ac ni fyddwch yn gweld yr athro ar ddechrau ei yrfa nes y diwrnod wedyn.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Mae’r athro ar ddechrau ei yrfa yn penderfynu ymgymryd â dull newydd o weithio gyda gwaith grŵp, sy’n arwain at amharu’r wers; mae angen i chi ymyrryd er mwyn atal rhagor o amharu.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Mae athro ar ddechrau ei yrfa yn rhannu ychydig o waith y dysgwr y mae ef yn fodlon gydag ef, ond rydych chi’n teimlo nad yw’r athro ar ddechrau ei yrfa wedi cymryd i ystyriaeth dysgu blaenorol y dosbarth.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Mae athro ar ddechrau ei yrfa yn hynod hunan-feirniadol, ac yn cwblhau pob gwers gyda rhestr o’r holl bethau a aeth o chwith.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Yn hytrach na dweud wrtho beth sydd angen ei wneud, fel arfer mae’n llawer mwy effeithiol gofyn cwestiynau mewn ffordd sy’n annog athro ar ddechrau ei yrfa i fyfyrio a chydnabod dros ei hun lle mae angen datblygu. Creu cyfleoedd ar gyfer trafodaeth agored, ac annog yr athro ar ddechrau ei yrfa i ystyried pam all fod rhywbeth wedi digwydd, yw’r ffordd orau o fentora – ond yn aml, mae angen rhoi ystyriaeth ofalus i amseru sgyrsiau o’r fath. Efallai nad cael cyfarfod yn syth ar ôl gwers heriol yw’r amser mwyaf priodol i brosesu beth ddigwyddodd, er mae’n debygol y bydd angen tawelu meddwl yr athro ar ddechrau ei yrfa . Drwy oedi ychydig, ceir persbectif, wrth i’r athro ar ddechrau ei yrfa brosesu ei deimladau, a chael cyfnod i fyfyrio’n fanwl.

Mae’n bosibl y bydd angen cefnogaeth ar athrawon ar ddechrau eu gyrfa i gydnabod agweddau cadarnhaol ar eu haddysgu. Fel arfer, bydd annog trafodaeth gychwynnol ynghylch yr agweddau cadarnhaol a lle mae cynnydd wedi’i wneud yn caniatáu trafodaeth onest o’r pwyntiau i’w datblygu, gan arwain at greu targedau penodol, cyraeddadwy.

Pan mae amser yn brin, gellid nodi cwestiynau sy’n annog myfyrio manwl wrth gynllunio gwers neu mewn llyfr nodiadau y gellir eu rhannu gyda’r athro ar ddechrau ei yrfa . Er enghraifft, gellid nodi yn y fan a’r lle cwestiynau sy’n gofyn i’r athro ar ddechrau ei yrfa i ystyried pam bod rhywbeth wedi digwydd mewn gwers, ac yna cael dilyniant ohonynt mewn cyfarfod rheolaidd.