Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)
Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch ar y cwrs hwn i olrhain eich dysg.

2.2 Dysgu drwy brentisiaeth

Mae rhai yn ystyried addysgu’n grefft (e.e. Brown a McIntyre, 1993) ac yn gweld dysgu i addysgu fel prentisiaeth, lle mae profiad yn gwella perfformiad ac mae dysgu yn broses araf. Yn y ddamcaniaeth hon, gwelir y mentor fel un sydd wedi meistroli ei grefft yn arwain yr athro ar ddechrau ei yrfa i ymgymryd â mwyfwy o rolau cymhleth (Brown a McIntyre, 1993). Mae’r mentor yn cynghori, yn arwain ac yn cynnig awgrymiadau ymarferol er mwyn galluogi’r athro ar ddechrau ei yrfa i wneud penderfyniadau da yn uniongyrchedd y dosbarth. Mae’r athro ar ddechrau ei yrfa yn dysgu drwy arsylwi ac efelychu sut mae’r athro yn ymwneud â’r myfyrwyr, yn gosod ei hun, yn defnyddio’r bwrdd, ac ati.

Mae disgrifiad damcaniaethol o’r fath yn cyd-fynd yn dda â’r ffordd mae nifer o fentoriaid yn ystyried eu hunain, sef nid yn unig yn cefnogi athrawon ar ddechrau eu gyrfa, ond eu haddysgu’n weithredol, drwy gynghori, cyfarwyddo ac awgrymu dulliau ymarferol. Mae mentoriaid hefyd yn gweithredu fel aseswyr, yn cynnig adborth ar wersi a gwneud asesiadau crynodol o gynnydd yr athro ar ddechrau ei yrfa . Gall y rolau deuol hyn achosi tensiwn: mae rhai mentoriaid yn credu bod rôl cefnogwr a beirniad yn mynd yn groes i’w gilydd.

Mae’r ddamcaniaeth hon wedi cael beirniadaeth. Yn gyffredinol, nid yw mentoriaid am i’w hathrawon ar ddechrau eu gyrfa ddod yn fersiwn arall ohonyn nhw, maent yn awyddus iddynt ffurfio eu hunaniaeth broffesiynol eu hunain. Mae mentoriaid hefyd yn gweld nad yw’r proffesiwn addysgu, sy’n gymhleth ac yn ddibynnol ar berthnasoedd, yn ymwneud â rhoi awgrymiadau defnyddiol na throsglwyddo datrysiadau sy’n addas i bawb, yn hytrach mae’n waith deallusol drwm sydd angen ymrwymiad, angerdd a chreadigrwydd.