Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)
Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch ar y cwrs hwn i olrhain eich dysg.

2.3 Dysgu fel caffael hunaniaeth broffesiynol mewn cymuned ymarfer

Yn y Cwricwlwm i Gymru a’r Cwricwlwm i’r Alban, mae’n ofynnol i athrawon ddangos graddau uchel o weithredu proffesiynol (Biesta, Priestley a Robinson, 2015). Nid yw gweithredu yn briodwedd sy’n dod yn naturiol i rywun. Yn hytrach, mae’n rhywbeth mae’r athro yn cael ei ymarfer, ac yn cael ei annog i wneud hynny, o fewn yr adnoddau sydd ar gael yn eu cyd-destun, gan ddatblygu hunaniaeth broffesiynol mewn cymuned o’r rheini sy’n ymarfer gweithredu o’r fath.

Mae hunaniaeth broffesiynol yn broses barhaus o wneud synnwyr o werthoedd a phrofiadau, a’u hail-ddehongli (Flores a Day, 2006). Rhaid i’r athro ar ddechrau ei yrfa ystyried ei hun yn athro (Coldron a Smith, 2010); rhaid iddo feddu ar hunaniaeth ac ail-ddiffinio hunaniaeth sydd wedi’i chyfreithloni gan y gymuned maent yn rhan ohoni. Mae angen gweithredu er mwyn datblygu hunaniaeth fel athro: i fod yn athro, rhaid i’r athro ar ddechrau ei yrfa gael cymryd rhan fel rhywun sy’n gwneud penderfyniadau yng nghymuned yr ysgol, a chael ei annog i wneud hynny.

Yn ôl Lave a Wenger (1991), mae hunaniaeth broffesiynol athro yn cael ei ffurfio drwy gymryd rhan ar y ffin yng nghymuned yr ysgol. O’r persbectif hwn, mae dod yn athro yn golygu symud o gyfrannu ar y ffin i aelodaeth lawn drwy feistroli sgiliau, gwybodaeth ac ymarferion cymdeithasol-ddiwylliannol. Mae athro ar ddechrau ei yrfa yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o brofiadau, yn magu perthnasoedd ac yn dod o hyd i ffyrdd o ymddwyn, gan ei ganiatáu i ddod yn aelod llawn o’r gymuned honno.

Mae meddwl am ddysgu fel cael eich cyflwyno i gymuned ymarfer yn gofyn i rôl y mentor hwyluso ymdeimlad o berthyn athro ar ddechrau ei yrfa a’i allu i weithredu yn y gymuned. Mae perthnasoedd anghyfartal o ran pŵer (Lave a Wenger, 1991) yn rhan reddfol o gymunedau ymarfer – rôl y mentor yw croesawu’r aelod newydd i’r gymuned, a chefnogi a chyfiawnhau ei symudiad o gyfranogiad ar y ffin i gyfrannu’n llawn mewn aelodaeth weithredol o’r gymuned.

Mae addysgu yn ymdrech gymhleth, ac mae dysgu i addysgu yr un mor gymhleth. Mae’n debyg y bydd unrhyw ymgais i symleiddio’r dull hwn yn peryglu colli rhan hanfodol o’r gwaith.