2.4 Tair damcaniaeth fentora
Nid oes rhaid i’r tair ddamcaniaeth o sut mae mentoriaid yn cefnogi dysg athrawon ar ddechrau eu gyrfa fod yn rhai na ellir eu cymryd law yn llaw â’i gilydd. Awgryma Furlong a Maynard (1995) y gall mentoriaid newid rhwng damcaniaethau prentisiaeth a myfyrio, gan ddechrau’n fwy fel prentis a datblygu i ffyrdd mwy myfyriol o weithredu. Gellir ystyried hyn yn arbennig o briodol gan fod mentor yn cefnogi athro ar ddechrau ei yrfa o gyfranogiad ar y ffin i gymryd rhan yn llawn yn y gymuned ymarfer, sef yr ysgol. Gall ymgymryd ag agwedd cyd-holwr (Smith, 2010) i sut all ymarfer ym mhob agwedd ar y berthynas fentora ddatblygu, gynnig sylfaen dda ar gyfer y berthynas gymhleth hon.
Gweithgaredd 4 Damcaniaethau ar waith
Gan ddefnyddio’r un sefyllfaoedd â Gweithgaredd 3, ystyriwch sut allech chi ymateb petaech chi’n glynu wrth bob sefyllfa ddamcaniaethol o ran mentora. Llenwch y blychau gwag gyda’ch syniadau. Mae rhai wedi’u gwneud i chi yn barod i roi ychydig o syniadau i chi.
Sefyllfa | Gweithredoedd a all hyrwyddo dysg drwy fyfyrio | Gweithredoedd a all hyrwyddo dysg fel prentisiaeth | Gweithredoedd a all hyrwyddo dysg fel dod yn rhan o gymuned |
1. Rydych chi’n gwneud gwaith yn y dosbarth wrth i’r athro ar ddechrau ei yrfa gynnal gwers olaf y diwrnod. Mae’r athro ar ddechrau ei yrfa yn gosod gwaith sy’n llawer rhy hawdd i’r dysgwyr, ac maent yn dechrau colli eu ffocws. | Holwch yr athro ar ddechrau ei yrfa beth, yn ei farn ef, a arweiniodd at y plant yn colli eu ffocws. | Dywedwch wrth yr athro ar ddechrau ei yrfa bod angen iddo sicrhau bod gwaith mwy heriol ar gael petai hyn yn codi eto ac i le’r ydych chi’n mynd i ddod o hyd i’r gwaith hwnnw. | Trefnwch i’r athro ar ddechrau ei yrfa arsylwi sut mae athro arall, sy’n adnabyddus am ei arbenigedd o ran asesu dysg flaenorol, er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cyd-fynd yn well â’r hyn sydd ei angen ar fyfyrwyr. |
2. Mae’r athro ar ddechrau ei yrfa yn penderfynu ymgymryd â dull newydd o weithio gyda gwaith grŵp, sy’n arwain at amharu’r wers; mae angen i chi ymyrryd er mwyn atal rhagor o amharu. | Cymerwch yr awenau er mwyn rhoi trefn ar y grwpiau, a’u tawelu, er mwyn dangos sut mae gwneud hynny i’r athro ar ddechrau ei yrfa ac yna dywedwch wrth y dosbarth y bydd yr athro ar ddechrau ei yrfa yn arwain gweddill y wers. | ||
3. Mae athro ar ddechrau ei yrfa yn rhannu ychydig o waith y dysgwyr y mae ef yn fodlon gydag ef, ond rydych chi’n teimlo nad yw’r athro ar ddechrau ei yrfa wedi cymryd i ystyriaeth dysg flaenorol y dosbarth. | Gofynnwch i’r athro ar ddechrau ei yrfa sut fydd o’n gwybod bod y dosbarth yn barod i ddefnyddio’r syniadau hyn yn ei ddosbarth. |