3 Dysg broffesiynol er datblygiad mentor
Cynigiodd Lofthouse (2018) fodel datblygu ymarfer ar gyfer dysg broffesiynol unigol drwy fentora. Mae’r ddysg broffesiynol drwy fentora a ddengys yn y model yn gymhleth a chydberthnasol gan fod y mentor a’r athro ar ddechrau ei yrfa yn datblygu eu hymarfer gyda’i gilydd. Yn aml, ystyrir mentora fel gweithgaredd, weithiau’n hynod gynhyrchiol, weithiau’n ailadroddus braidd a bob amser yn cael ei wneud yng nghanol gweithgaredd proffesiynol neu hyfforddiant arall.
Ar ochr chwith y model, ceir galluogwyr y ddysg broffesiynol, gan gynnwys amodau diwylliannol cyfundrefnol a rhyngbersonol a phriodweddau unigol a phersonol. Yn y canol, nodir ‘mentora’. Mae ochr dde’r model yn dangos yr ymarferion y dylai’r mentor a’r athro ar ddechrau ei yrfa fod yn barod i gymryd rhan ynddynt, a gallu gwneud hynny, er mwyn hyrwyddo dysg broffesiynol. Mae siâp a saethau’r model yn cynrychioli effeithiau cronnus dysgu a thwf, sy’n cynnal ac yn adnewyddu cyfleoedd ar gyfer dysg broffesiynol drwy gylchoedd mentora, gyda’r potensial i bob cylch ganiatáu rhagor o ddatblygu ymarfer.
Gweithgaredd 5 Dysg broffesiynol
Edrychwch yn ofalus ar fodel datblygiad proffesiynol Lofthouse yn Ffigwr 3. Nodwch enghreifftiau penodol o’r cysyniadau damcaniaethol a all fod yn amlwg yn ymarfer neu ddatblygiad y mentor a’r athro ar ddechrau ei yrfa . Mae rhai enghreifftiau wedi’u nodi fel man cychwyn i chi.
Cysyniad damcaniaethol | … yn ymarfer a/neu ddatblygiad y mentor | … yn ymarfer a/neu ddatblygiad yr athro ar ddechrau ei yrfa |
Perthynas sy’n datblygu a newid | Datblygu cyfeillion beirniadol | |
Cefnogi a herio | Datrys problemau ac arloesi | |
Dysgu drwy fyfyrio | Egluro ymarfer a syniadau i eraill | |
Dysgu drwy brentisiaeth | Deall eraill, ac ymgysylltu â nhw | |
Dysgu fel caffael hunaniaeth broffesiynol mewn cymuned ymarfer | Datblygu syniadau a hunan-reolaeth ar ffurf deialog |
Bydd dysg broffesiynol bob amser yn cynnwys agweddau ar ymchwil, boed hynny yn golygu ymgysylltu â dysg eraill o waith ymchwil, cymryd rhan mewn gwwaith ymchwil eich hun, neu’r ddau.