Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)
Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch ar y cwrs hwn i olrhain eich dysg.

4 Sut all mentoriaid ddefnyddio ymchwil?

Mae Cain (2009) yn gwneud pedwar argymhelliad ynghylch sut all mentoriaid wneud defnydd o ymchwil a damcaniaeth wrth ddatblygu eu hymarfer eu hunain, ac wrth gefnogi a herio athrawon ar ddechrau eu gyrfa . Mae’n awgrymu y gellir cael dealltwriaeth well am fentora:

  1. drwy ddarlleniad y mentor o ymchwil, a’i ddealltwriaeth amdano
  2. gan ddefnyddio fframweithiau damcaniaethol – fel yr un a ddefnyddir gan Lofthouse (2018)
  3. drwy ystyried astudiaethau achos a beth allant eu dweud wrthym
  4. drwy fentoriaid yn ymchwilio i’w hymarfer eu hunain.

Pwynt myfyrio

Ystyriwch awgrymiadau Cain uchod.

  • Ym mha un o’r rhain ydych chi wedi bod ynghlwm â nhw yn ddiweddar?
  • Pa un ydych chi’n gredu fyddai’n werthfawr wrth i chi ddatblygu yn eich rôl?
  • Pa un y gallech chi ei ddefnyddio yn ystod eich amser fel mentor?