5 Crynodeb Wythnos 2
Yn yr wythnos hon o’r cwrs, rydych wedi ystyried camau o’r daith y mae’n rhaid i bob athro ar ddechrau ei yrfa ei gwneud wrth iddo hawlio ei le yn y gymuned broffesiynol o athrawon. Rydych wedi ystyried pa mor hanfodol yw cefnogi a herio’r sawl yr ydych yn ei fentora i sicrhau ei fod yn datblygu ar gyflymder sy’n addas iddo.
Yn ogystal, gwnaethoch ystyried sut mae ymchwilio i fentora wedi cynnig modelau gwahanol ar gyfer y berthynas. Rydych wedi meddwl sut ydych chi’n gweld eich hun fel mentor, a’r ffordd orau o alluogi’r ddysg broffesiynol sydd ei hangen ar athrawon ar ddechrau eu gyrfa. Daeth yr wythnos hon i ben gyda chipolwg ar sut all fentoriaid ddefnyddio ymchwil a damcaniaeth yn eu rôl.
Gallwch nawr fynd ymlaen i Wythnos 3 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .