Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)
Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch ar y cwrs hwn i olrhain eich dysg.

Wythnos 2: Datblygu gyda’r sawl yr ydych yn ei fentora – mentora fel proses ddi-dor

Cyflwyniad

Yn Wythnos 1, cawsoch eich cyflwyno i egwyddorion mentora effeithiol. Mae’r wythnos hon yn canolbwyntio ar sut all mentora ddatblygu a newid wrth i chi a’r sawl yr ydych yn ei fentora ennill profiad a magu hyder. Yn y rhan gyntaf, trafodir y prif ffactorau yn y broses ddi-dor hon, ac yna canolbwyntir ar ddamcaniaethau mentora a sut mae’r rhain yn berthnasol i ymarfer. Bydd yr wythnos yn dod i ben drwy ystyried sut all ymchwil gefnogi’ch ymarfer mentora.

Cynlluniwr gweithgareddau
Gweithgaredd Deilliannau dysgu Amser
Gweithgaredd 1 Cefnogi neu herio? Adolygwch y tabl sefyllfaoedd ac ystyriwch sut fyddech chi’n ymateb. 20 mun
Gweithgaredd 2 Perthnasoedd symbiotig Gwyliwch fideo, a myfyriwch ar eich profiad eich hun. 30 mun
Gweithgaredd 3 Cefnogi myfyrio mewn sefyllfaoedd gwahanol Ymateb i sefyllfaoedd. 20 mun
Gweithgaredd 4 Damcaniaethau ar waith Ymateb i sefyllfaoedd. 10 mun
Gweithgaredd 5 Dysg broffesiynol Defnyddio model Lofthouse i feddwl am ddysg broffesiynol. 20 mun