Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)
Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch ar y cwrs hwn i olrhain eich dysg.

1.1 Plethu’r ysgol a’r brifysgol

Mae athrawon dan hyfforddiant yn dweud yn aml bod yr amser maen nhw’n ei dreulio yn yr ysgol yn un o agweddau mwyaf defnyddiol ar eu dysg. Dyma lle maen nhw’n dysgu am arfer dda yng nghyd-destun ymarferol eu hysgol ac yn dechrau’r broses anodd o ddysgu i dynnu ar ‘wybodaeth ymarferol’ athrawon mwy profiadol (Hagger a McIntyre, 2006).

Ffigwr 1

Mae gwybodaeth bwysig seiliedig ar ymchwil y mae’n rhaid i athrawon dan hyfforddiant ei deall, ac yn draddodiadol dyma lle mae prifysgolion wedi chwarae rôl ganolog. Wedi dweud hynny, yn rhaglenni modern addysg gychwynnol i athrawon, mae pwyslais cynyddol ar yr angen i fyfyrwyr ddeall, cyfuno a defnyddio ffurfiau deallusol a phrofiadol o wybodaeth, ac i raglenni addysg gychwynnol i athrawon ddylunio eu darpariaeth a’u cwricwla i gefnogi’r integreiddiad hwn (Lofthouse, 2018). Mae Hagger a McIntyre (2006) yn galw’r broses hon yn ‘ddamcaniaethu ymarferol’. Fel rhan o’r broses hon, mae athro ar ddechrau ei yrfa yn tynnu ar ddamcaniaeth ac ymchwil i adnabod syniadau i wella ei ymarfer ac yna’n dechrau archwilio’n feirniadol defnyddioldeb y syniadau hyn yng nghyd-destun ei ymarfer eu hunain, ei bwnc neu lefel, ei disgyblion a’i ysgol. Mae gan y mentor rôl allweddol i’w chwarae yn y broses hon. Maen nhw’n cefnogi athrawon ar ddechrau eu gyrfa i ddatblygu digon o gymhwysedd i ddefnyddio damcaniaethu ymarferol wrth iddynt symud tuag at addysgu’n annibynnol.

Bydd sut fydd gwaith mentor yn cael ei ganfod yn amrywio’n fawr yn ysgolion. Mae dyletswydd ar uwch arweinwyr i ddewis mentoriaid ymhlith yr athrawon hynny sydd â gwybodaeth gadarn ynghylch y rhaglenni mae’r myfyrwyr ynghlwm â nhw, sgiliau rhyngbersonol da a dealltwriaeth glir am anghenion athro ar ddechrau ei yrfa sy’n gweithio tuag at safonau disgwyliedig (Estyn, 2018).

Yn ogystal, rhaid i fentor gefnogi athro ar ddechrau ei yrfa drwy feithrin twf tueddiadau penodol. Mae’r tueddiadau hyn yn cynnwys cydnabod yr angen i ddatblygu’n barhaus drwy gymryd cyfrifoldeb am ei gyfrifoldeb dros ei ddysg ei hun drwy gydol ei yrfa, a datblygu awydd i ymgysylltu’n feirniadol ag ymchwil i wella ac arloesi’n barhaus ei ymarfer yn y dosbarth a’i ymateb i’r dysgwyr y mae’n gyfrifol amdanynt.