2.1 Ystyriwch ba mor barod yw’r sawl yr ydych yn ei fentora i ymgysylltu â’r broses fentora
Ar ddechrau’r broses, mae’n bwysig sefydlu disgwyliadau’r athro ar ddechrau ei yrfa ohonoch chi fel mentor ac ystyried sut mae’r rhain yn cysylltu â’ch disgwyliadau chi eich hunan. Nid ‘llechen lân’ mo athro ar ddechrau ei yrfa – er y bydd gennych chi syniadau clir am y disgwyliadau ar gyfer addysgu a dysgu yn eich ysgol, bydd gan yr athro ei dueddiadau ei hun hefyd ac efallai peth o ymarfer y brifysgol yn ychwanegol at hynny. Bydd sefydlu disgwyliadau’r ddwy ochr yn rhoi cychwyn da i’r berthynas.