Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)
Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch ar y cwrs hwn i olrhain eich dysg.

2.2 Sefydlu ffocws ar ‘ddamcaniaethu ymarferol’ yn gynnar

Ystyriwch sut allwch chi gefnogi a herio’ch athro ar ddechrau ei yrfa, a hyrwyddo ymarfer myfyrio ar y dulliau a’r rhesymeg maen nhw wedi’i dewis yn eu haddysgu. Mae adborth sy’n ysgogi’r meddwl ac yn annog yr unigolyn i fyfyrio yn rhan bwysig o’r ddeialog fentora. Mae adborth defnyddiol yn cefnogi ymarfer llwyddiannus ond mae hefyd yn pwysleisio meysydd lle mae angen dulliau neu syniadau newydd ar yr athro ar ddechrau ei yrfa, ac mae’n ei annog i ystyried damcaniaeth ac ymchwil er mwyn arloesi (Mutton, Hagger a Burn, 2011).

Ystyriwch sut allwch annog agweddau pwysig ar drafodaethau, megis myfyrio beirniadol, materion addysgegol, egwyddorion sy’n sail i ymarfer neu faterion yn ymwneud â diwygio cymdeithasol neu gyfiawnder, fel rhan o’ch deialog broffesiynol (Hobson a Malderez, 2013). Mae mynegi syniadau mewn modd myfyriol feirniadol yn cefnogi twf damcaniaethu ymarferol, caniatáu sgyrsiau mentora dynamig sy’n cynorthwyo’r athro ar ddechrau ei yrfa ac yn caniatáu’r mentor profiadol i gyd-greu syniadau newydd ar gyfer addysgu (Lofthouse, 2018).