Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)
Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch ar y cwrs hwn i olrhain eich dysg.

2.3 Canolbwyntio perthynas gadarnhaol gyda’r sawl yr ydych yn ei fentora

Mae’r mentor mwyaf effeithiol yn magu perthynas gadarnhaol gydag athrawon ar ddechrau eu gyrfa ac yn darparu cymorth ar gyfer llesiant emosiynol. Maen nhw’n helpu athrawon ar ddechrau eu gyrfa i deimlo’n gartrefol, wedi’u derbyn a’u bod yn cael eu cynnwys yng nghymuned ehangach eu hysgol. Mae’n wir fod gan fentoriaid rôl bwysig i’w chwarae o ran asesu cynnydd athrawon ar ddechrau eu gyrfa mewn perthynas â gofynion rheoliadol, megis safonau proffesiynol. Ond, os rhoddir gormod o bwyslais ar rôl yr ‘aseswr’ yn gynnar yn y berthynas rhwng y mentor a’r sawl sy’n cael ei fentora, yna gellir achosi tensiwn. Canolbwyntiwch ar sefydlu perthynas gadarn, gydag ymddiriedaeth, lle’r ydych yn cynnig amgylchedd diogel ar gyfer dysgu a chymryd risgiau yn y camau cychwynnol (Lofthouse, 2018). Gofalwch nad ydych yn llethu’ch athro ar ddechrau ei yrfa gyda gormod o adborth yn y camau cynnar, na rhoi adborth rhy feirniadol: canolbwyntiwch ar yr hyn y gallant ei wneud ac ar roi targedau clir y gallant eu cyflawni.