3 Cefnogi ymarfer myfyriol yr athro ar ddechrau ei yrfa
Mae mentoriaid effeithiol yn annog athrawon ar ddechrau eu gyrfa i fyfyrio’n feirniadol ar eu hymarfer drwy fodelu sut beth yw hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd. Gall myfyrio fod yn naill ai ffurfiol neu’n anffurfiol, a bydd yn fwyaf grymus os yw’r tair elfen o fyfyrio beirniadol yn cael eu hystyried (sef myfyrio, meddwl yn feirniadol a gwerthuso).
Ni ddylid tanseilio pwysigrwydd manteisio ar gyfleoedd i fyfyrio’n anffurfiol. Mewn ymchwil gan Jones, Tones a Foulkes (2018), canfuwyd mai drwy ddeialog anffurfiol (a fyddai’n cynnwys peth myfyrio yn ôl pob tebyg) rhwng mentoriaid ac athrawon ar ddechrau eu gyrfa oedd myfyrwyr yn gwneud y cynnydd gorau, yn enwedig pan oedd y berthynas yn gadarnhaol a chydweithredol.
Strategaeth | Enghreifftiau |
Dyddlyfrau neu ddyddiaduron myfyriol | Cofnodwch ddigwyddiadau, syniadau a myfyrdodau a gewch o ffynonellau gwahanol, megis arsylwadau a chyrsiau hyfforddiant. Gall fod yn llyfr nodiadau neu’n flog yr ydych yn ei rannu, sy’n cynnwys myfyrdodau anffurfiol i’w hysytyried yn ystod cyfarfodydd â’ch mentor ac adborth anffurfiol. |
Sesiynau â mentor | Amser penodol ar gyfer myfyrio manwl, gwerthuso a gosod targedau. |
Ymarfer a rennir | Arsylwi’r mentor neu ymgymryd â strwythurau mwy ffurfiol, megis astudio gwers neu gynllunio ar y cyd ac addysgu tîm. |
Arsylwi | Arsylwadau gwers – ffurfiol ac anffurfiol. Anffurfiol: yn cael ei ddefnyddio i ysgogi ymarfer myfyriol a darparu sylfaen ar gyfer asesu a thrafodaeth ffurfiol. Ffurfiol: yn cael ei ddefnyddio at ddibenion asesu, yn aml ar y cyd ag aseswyr ymarfer allanol. |
Adborth | Yn rhan o ddeialog broffesiynol ac yn aml yn dilyn arsylwad o wers. Gall fod ar sawl ffurf (e.e. ffurfiol, anffurfiol; cyffredinol, penodol; cyfarwyddiadol, pen agored). |
Dysgu seiliedig ar broblemau | Dadansoddi sefyllfaoedd go iawn. |
Llais y dysgwr | Amser i ddysgwyr gwblhau gwerthusiadau neu drafod eu dysg. Defnyddir i fod yn sail i fyfyrio. |
Mae’r strategaethau hyn i gefnogi ymarfer myfyriol yn seiliedig ar y syniadau yng nghanllawiau ‘Ymarfer myfyriol’ (Llywodraeth Cymru, 2015), gyda rhai ychwanegiadau.
Bydd y gweithgaredd nesaf yn eich helpu chi i fyfyrio ar sut all sgyrsiau mentora annog ymarfer myfyriol.
Gweithgaredd 3 Hyrwyddo deialog fyfyriol
Gwrandewch ar y clipiau sain isod, sy’n rhoi blas ar ddeialog rhwng dau fentor a’u hathrawon ar ddechrau eu gyrfa. Ystyriwch beth sy’n broblematig ym mhob golygfa a nodwch awgrymiadau posibl ar gyfer sut allai’r ddeialog wedi bod yn fwy effeithiol.
Clip Sain 1
Transcript
Beth oedd ei angen ar yr athro ar ddechrau ei yrfa gan ei fentor yn y sefyllfa hon? |
Beth enillodd yr athro ar ddechrau ei yrfa o’r ddeialog? |
Beth ydych chi’n ei weld yn broblemus? |
Sut allai’r ddeialog wedi bod yn fwy effeithiol? |
Clip Sain 2
Transcript
Beth oedd ei angen ar yr athro ar ddechrau ei yrfa gan ei fentor yn y sefyllfa hon? |
Beth enillodd yr athro ar ddechrau ei yrfa o’r ddeialog? |
Beth ydych chi’n ei weld yn broblemus? |
Sut allai’r ddeialog wedi bod yn fwy effeithiol? |
Gan fyfyrio ar y ddwy sefyllfa, ysgrifennwch ymateb byr yn y blwch isod ynghylch sgyrsiau mentora effeithiol
Rôl mentoriaid yw cefnogi a herio athro ar ddechrau ei yrfa drwy sgyrsiau monitro priodol, ond gallant hefyd ymestyn eu rôl yn eu hysgol i ymgymryd â rhagor o gyfrifoldebau. Ystyrir y rôl ehangach hon nesaf.