Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)
Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch ar y cwrs hwn i olrhain eich dysg.

4 Mentora fel rôl ehangach

Gall mentora gynnwys cefnogi un athro ar ddechrau ei yrfa, neu gall ymestyn i ymgymryd â chyfrifoldebau ehangach ar gyfer sawl athro ar ddechrau ei yrfa yn yr ysgol neu ysgol gyfan, dull strategol i fentora.

Mae ymgymryd â rôl ehangach yn debygol o gynnwys gweithio’n agos ag un neu fwy o bartneriaethau addysg gychwynnol i athrawon i sicrhau dyluniad cydlynol o brofiadau dysgu athrawon ar ddechrau eu gyrfa, a gweledigaeth a rennir o ymarferion mentora effeithiol ar draws eich ysgol (ac efallai ysgolion eraill yn eich rhwydwaith).

Bydd rôl mentora ehangach hefyd yn gofyn sicrhau bod nifer o strwythurau cefnogaeth ymarferol yn cael eu darparu yn yr ysgol, megis: galluogi mwy o amser rhydd i fentoriaid wneud eu gwaith; amserlennu strwythurau i alluogi amser i fentoriaid/y rheini sy’n cael eu mentora gyda’i gilydd yn y dosbarth; a chefnogaeth dysgu broffesiynol a chydnabod gwaith mentora (Hobson a Malderez, 2013). Mae sefydlu diwylliant dysgu colegol, gyda mynediad at gefnogaeth i fentoriaid ac athrawon ar ddechrau eu gyrfa y tu hwnt i’w perthynas fentora, yn rhan bwysig o’r rôl.

Pwynt myfyrio

  • Pa strwythurau ysgol gyfan sy’n eu lle yn eich ysgol i gefnogi mentoriaid ac effeithiolrwydd mentora?
  • Sut mae’r rhain wedi’u bwriadu i gefnogi’ch ymarfer fel mentor?
  • Sut fyddech chi’n cydweithio gydag eraill yn eich ysgol neu rwydweithiau ysgol ehangach i gefnogi’ch mentora?