5 Crynodeb Wythnos 1
Yr wythnos hon rydych wedi ystyried rôl y mentor yn yr ysgol. Ystyrir mentor fel addysgwr i athrawon yn ei hawl ei hun, ac mae’n cynorthwyo’r athro ar ddechrau ei yrfa i ddwyn ynghyd gwybodaeth a geir drwy brofiadau a gwybodaeth ddeallusol.
Cydnabyddir mentora fel proses ddi-dor ac fel rhan o’r broses honno mae mentoriaid yn defnyddio ystod o sgiliau wedi’u teilwra yn arbennig i anghenion ac arbenigedd eu hathro ar ddechrau ei yrfa, gan gynnig cefnogaeth a herio yn ôl yr angen. Ar y dechrau, mae’r mentor yn coresawu’r athro ar ddechrau ei yrfa i’r ysgol ac yn ei helpu i ddeall cyd-destun yr ysgol. Cyn gynted ag y mae’r athro ar ddechrau ei yrfa wedi cael ei draed oddi tano, mae’r mentor yn symud ymlaen i gefnogi’r athro ar ddechrau ei yrfa i fynegi a myfyrio ar ei ymarfer, gan ei alluogi i ddod yn fwyfwy ymreolaethol a gallu bodloni safonau i fynd i’r proffesiwn.
Mae mentoriaid yn cefnogi athrawon ar ddechrau eu gyrfa i archwilio ymchwil a damcaniaeth, a chynnwys arloesiadau yn eu hymarfer. Mae mentoriaid effeithiol yn gosod athro ar ddechrau ei yrfa ar daith o ddysgu proffesiynol ar gyfer ei yrfa gyfan. Mae mentoriaid yn deall sut a pha bryd i gydweithio gydag eraill i gefnogi eu hathro ar ddechrau ei yrfa. Yn bwysicach fyth, mae mentoriaid effeithiol yn gwybod sut i fagu rhwydweithiau o arbenigedd, a thynnu arnynt, i gefnogi eu hymarfer mentora, a gwybodaeth addysgu athrawon ar ddechrau eu gyrfa.
Gallwch nawr fynd ymlaen i Wythnos 2 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .