1.4 Siapiau 3D cyffredin
Byddwch yn gyfarwydd â rhai siapiau 3D cyffredin.
Box 25.2
Awgrym: Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y gwahaniaeth rhwng ciwb (sgwâr 3D) a chiwboid (petryal 3D).
Dangosir rhai siapiau 3D eraill y byddwch efallai yn dod ar eu traws yn Ffigur 9.
Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol.
Activity 25.4 Gweithgaredd 4: Priodweddau siapiau 3D
Wynebau yw’r enw ar ochrau siapiau 3D. Cwblhewch y tabl canlynol:
| Siâp | Nifer y wynebau |
|---|---|
| Ciwb | |
| Pyramid sylfaen sgwâr | |
| Sffêr | |
| Silindr | |
| Ciwboid | |
| Côn | |
| Pyramid sylfaen triongl | |
| Prism triongl |
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
Ateb
| Siâp | Nifer y wynebau |
|---|---|
| Ciwb | 6 |
| Pyramid sylfaen sgwâr | 5 |
| Sffêr | 1 |
| Silindr | 3 |
| Ciwboid | 6 |
| Côn | 2 |
| Pyramid sylfaen triongl | 4 |
| Prism triongl | 5 |
Yn ogystal â wynebau, mae gan siapiau 3D ymylon a fertigau (corneli):
Fideos YouTube (Saesneg yn unig)
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
Cwblhewch y tabl canlynol:
| Siâp | Nifer yr ymylon | Nifer y fertigau |
|---|---|---|
| Ciwb | ||
| Pyramid sylfaen sgwâr | ||
| Sffêr | ||
| Silindr | ||
| Ciwboid | ||
| Côn | ||
| Pyramid sylfaen triongl | ||
| Prism triongl |
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
Ateb
| Siâp | Nifer yr ymylon | Nifer y fertigau |
|---|---|---|
| Ciwb | 12 | 8 |
| Pyramid sylfaen sgwâr | 8 | 5 |
| Sffêr | 0 | 0 |
| Silindr | 2 | 0 |
| Ciwboid | 12 | 8 |
| Côn | 1 | 1 |
| Pyramid sylfaen triongl | 6 | 4 |
| Prism triongl | 9 | 6 |

