Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Cymesuredd

Gellir plygu siâp 2D cymesur yn ei hanner fel bod y ddwy ochr yr un peth. Llinell (neu linellau) cymesuredd yw’r enw ar y plygiad.

Mae gan y siapiau yn Ffigur 10 un llinell cymesuredd.

Described image
Figure 26.1 Ffigur 10 Un llinell cymesuredd

Dim ond un llinell cymesuredd fydd gan rai siapiau, fel yr un canol uchod, oherwydd y manylion arno, fel y llygaid, y trwyn a'r geg. Fodd bynnag, mae gan gylch heb unrhyw fanylion ychwanegol nifer anfeidraidd o linellau cymesuredd!

Mae gan y siapiau yn Ffigur 11 linellau cymesuredd lluosog.

Described image
Figure 26.2 Ffigur 11 Llinellau cymesuredd lluosog

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol.

Activity 26.1 Gweithgaredd 5: Llinellau cymesuredd

Yn Ffigur 12, faint o linellau cymesuredd sydd gan bob un o’r llythrennau hyn?

Described image
Figure 26.3 Ffigur 12 Faint o linellau cymesuredd?

Ateb

Described image
Figure 26.4 Ffigur 13 Llinellau cymesuredd

Mae gan ‘M’, ‘A’ a ‘T’ un llinell cymesuredd.

Mae gan ‘H’ ddwy linell cymesuredd.

Nid oes gan ‘S’ linell cymesuredd.

Activity 26.2 Gweithgaredd 6: Faint o linellau cymesuredd?

Enw arall ar linell cymesuredd yw llinell drych, oherwydd pe baech chi’n gosod drych ar hyd y llinell, byddai’r siâp yn edrych yr un peth.

Rhowch gynnig ar ysgrifennu’ch enw mewn prif lythrennau a gweld faint o linellau cymesuredd sydd gan bob llythyren. Gallech ddefnyddio drych i wirio’ch atebion.