1.1 Offer mesur
Felly beth ydych chi’n ei ddefnyddio i fesur pethau? Pe baech chi’n mesur rhywbeth bach, fel sgriw, mae’n debyg y byddech yn defnyddio pren mesur. I fesur rhywbeth mwy, fel hyd ystafell neu ardd, mae’n debyg y byddech yn defnyddio tâp mesur.
Gallech roi cynnig ar amcangyfrif maint rhywbeth cyn ei fesur, a fyddai’n eich helpu i benderfynu pa offeryn mae arnoch ei angen i’w fesur. Pe baech chi eisiau mesur waliau ystafell cyn ail-addurno, byddech yn cael mesuriad mwy cywir trwy ddefnyddio tâp mesur na phren mesur 30 centimetr! Ar ôl gwneud amcangyfrif, gallwch wirio pa mor gywir ydyw trwy fesur y gwrthrych.
Beth yw hyd ysgrifbin? Dewch o hyd i ysgrifbin, gwnewch amcangyfrif o’i hyd ac yna mesurwch ef yn gywir gan ddefnyddio pren mesur.
Awgrym: I’ch helpu i amcangyfrif maint eitem, dylech ei ystyried mewn perthynas ag eitemau eraill mae eu hyd yn hysbys:
Mae llygad nodwydd tua 1 milimetr (mm) o led.
Mae lled gewyn eich bys bach tua 1 centimetr (cm).
Hyd pren mesur bach yw 15 centimetr.
Hyd pren mesur mawr yw 30 centimetr.
Mae ffrâm drws tua 2 fetr o uchder.
Byddai’n cymryd tua 20 munud i gerdded 1 cilometr (km).
Gweithgaredd 2: Beth yw’r hyd?
Parwch yr eitemau canlynol â’r mesuriad bras:
Gan ddefnyddio'r ddwy restr ganlynol, parwch bob eitem sydd wedi'i rhifo â'r llythyren gywir.
175 cm
15 cm
30 cm
4 m
25 m
10 mm
20 km
a.Hyd ysgrifbin
b.Hyd darn A4 o bapur
c.Uchder bws deulawr
d.Hyd blewyn llygad
e.Hyd hanner marathon
f.Hyd pwll nofio
g.Taldra dyn
- 1 = g
- 2 = a
- 3 = b
- 4 = c
- 5 = f
- 6 = d
- 7 = e