Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.2 Mesur yn gywir

Er mwyn mesur yn gywir, gosodwch un pen yr ysgrifbin wrth y marc 0 ar y pren mesur. Os nad oes marc 0, defnyddiwch ben y pren mesur. Daliwch y pren mesur yn syth yn erbyn yr ysgrifbin. Pa farc mae’r pen arall yn ei gyrraedd?

Awgrym: Byddwch yn ofalus gyda’r darn o’r pren mesur neu’r tâp mesur sy’n fod cyn y marc cyntaf! Gwnewch yn siŵr bod beth bynnag sy’n cael ei fesur wrth y marc ‘sero’.

Described image
Ffigur 1 Mesur ysgrifbin

O’r diagram hwn, gallwch weld mai 15 cm yw hyd yr ysgrifbin.

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 3: Adeiladu silff ar gyfer DVDs

  1. Rydych eisiau adeiladu silff i ddal DVDs. Mae angen ichi wneud yn siŵr ei bod yn ddigon mawr! Beth yw uchder cas DVD?

    Described image
    Ffigur 2: Mesur cas DVD
  1. Does dim sgriwiau ar ôl gennych. Cyn ichi fynd i brynu rhagor, mae angen ichi fesur y sgriw olaf sydd gennych i wneud yn siŵr y byddwch yn prynu rhagor o’r un maint. Beth yw hyd y sgriw hon?

    Described image
    Ffigur 3 Mesur sgriw
  1. Beth yw lled pen y sgriw?

    Awgrym: Tynnwch linellau o ymyl pen y sgriw i lawr i’r pren mesur i’ch helpu i’w fesur.

    Described image
    Ffigur 4 Mesur pen sgriw

Ateb

  1. Uchder y cas DVD yw 19 cm.

    Described image
    Ffigur 5: Mesur ysgrifbin (ateb)
  2. Mae pen y sgriw hanner ffordd rhwng 2 a 3 cm, felly hyd y sgriw yw 2.5 cm (2 one divided by two cm) Noder nad yw’r mesuriad yn rhif cyfan. Yn aml mae’n rhaid mesur eitemau’n fanwl gywir. Mewn achos o’r fath, efallai na fydd yn briodol talgrynnu i’r centimetr agosaf, er enghraifft.

    Described image
    Ffigur 6 Mesur sgriw (ateb)
  3. Lled pen y sgriw yw 5 mm.

    Described image
    Ffigur 7 Mesur pen sgriw (ateb)