1.3 Mesur mewn milimetrau a chentimetrau
Wrth ichi fesur eitem, mae angen ichi benderfynu a fyddwch yn ei fesur mewn milimetrau, centimetrau neu fetrau. Yn aml, bydd eich penderfyniad yn cael ei seilio ar faint yr eitem, pam rydych yn ei fesur a pha mor gywir mae angen i’r mesuriad fod.
Wrth ichi fesur eitem, gallwch fynegi’r un mesuriad mewn ffyrdd gwahanol. I’ch helpu i wneud hyn, mae angen ichi wybod rhai ffeithiau am fesuriadau metrig:
Ffeithiau
10 milimetr = 1 centimetr
100 centimetr = 1 metr
1 000 metr = 1 cilometr
Gan ddechrau gyda’r lleiaf, yr unedau hyd metrig yw milimetrau (mm), centimetrau (cm) a metrau (m).
Defnyddir cilometrau (km) i fesur pellter.
Enghraifft: Ysgrifennu mesuriadau mewn milimetrau a chentimetrau
Gallwch fynegi mesuriad mewn milimetrau, centimetrau neu gyfuniad o’r ddau. Edrychwch ar y pren mesur isod. Pa fesuriad mae’r saeth yn pwyntio ato?
Dull
Mae’r rhifau a ddangosir ar y pren mesur yn cynrychioli centimetrau. Mae pob llinell rhwng pob centimetr cyfan yn filimetr; mae deg milimetr yn gyfwerth ag un centimetr. Felly gallwch ddweud bod y saeth yn pwyntio at:
1 cm 7 mm
Fodd bynnag, gallech ysgrifennu’r cwbl mewn centimetrau. Yr hyd yw un centimetr cyfan a saith milimetr ychwanegol, felly byddech yn ysgrifennu:
1.7 cm
Noder sut mae’r pwynt degol yn rhannu nifer y centimetrau o nifer y milimetrau. Fel arall, gallech ysgrifennu’r mesuriad hwn mewn milimetrau. Mae un centimetr yn gyfwerth â deg milimetr, felly:
1 cm 7 mm = 10 mm + 7 mm = 17 mm
Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol
Gweithgaredd 4: Ysgrifennu mesuriadau mewn ffyrdd gwahanol
Llenwch y bylchau yn y tabl i ddangos yr un mesuriad wedi’i ysgrifennu mewn tair ffordd wahanol. Mae’r cyntaf wedi’i wneud ichi. Cofiwch wirio’ch atebion.
Centimetrau a milimetrau | Centimetrau | Milimetrau |
---|---|---|
1 cm 7 mm | 1.7 cm | 17 mm |
8 cm 9 mm | ||
9.4 cm | ||
63 mm | ||
12 cm 6 mm | ||
105 mm | ||
20.1 cm |
Ateb
Centimetrau a milimetrau | Centimetrau | Milimetrau |
---|---|---|
1 cm 7 mm | 1.7 cm | 17 mm |
8 cm 9 mm | 8.9 cm | 89 mm |
9 cm 4 mm | 9.4 cm | 94 mm |
6 cm 3 mm | 6.3 cm | 63 mm |
12 cm 6 mm | 12.6 cm | 126 mm |
10 cm 5 mm | 10.5 cm | 105 mm |
20 cm 1 mm | 20.1 cm | 201 mm |