1.4 Trosi unedau
Yn aml efallai bydd angen ichi drosi rhwng gwahanol unedau hyd. Er enghraifft, pe baech chi’n gosod cegin neu’n mesur darn o ddodrefn, efallai byddai angen ichi drosi rhwng milimetrau a chentimetrau, neu gentimetrau a metrau.
Mae Ffigur 9 yn dangos ichi sut i drosi rhwng unedau hyd metrig.
Awgrym: I drosi o uned fwy i uned lai (fel cm i mm), rydych yn lluosi. I drosi o uned lai i uned fwy (fel mm i cm), rydych yn rhannu.
Enghraifft: Trosi unedau hyd
Beth yw 8.5 metr mewn centimetrau?
Beth yw 475 centimetr mewn metrau?
Dull
Mae trosi rhwng unedau metrig yn golygu lluosi neu rannu â 10, 100 neu 1 000. Byddwch wedi ymarfer hyn yn Sesiwn 1. Fel y gwelwch o Ffigur 9, mae angen ichi luosi â 100 i drosi o fetrau (m) i gentimetrau (cm). Felly i drosi 8.5 m yn gentimetrau:
8.5 m × 100 = 850 cm
Fel y gwelwch o Ffigur 9, mae angen ichi rannu â 100 i drosi o gentimetrau (cm) i fetrau (m). Felly i drosi 475 cm yn fetrau:
475 cm ÷ 100 = 4.75 m
Nawr rhowch gynnig ar y gweithgareddau canlynol.
Gweithgaredd 5: Trosi hydoedd
Defnyddiwch Ffigur 9 uchod i’ch helpu gyda’r gweithgaredd canlynol.
Dylech weithio’r rhain allan heb ddefnyddio cyfrifiannell. Efallai y byddwch eisiau edrych yn ôl ar Sesiwn 1 yn gyntaf i’ch atgoffa sut i luosi a rhannu â 10, 100 a 1 000.
20 mm = ? cm
54 mm = ? cm
0.5 cm = ? mm
8.6 cm = ? mm
400 cm = ? m
325cm = ? m
12 m = ? cm
6.8 m = ? cm
450 mm = ? m (Awgrym: Bydd angen ichi edrych ar y siart i weld sut i drosi o filimetrau i gentimetrau, ac yna o gentimetrau i fetrau)
2 m = ? mm
8 km = ? m
500 m = ? km
Rydw i’n 1.6 m o daldra. Pa mor dal ydw i mewn centimetrau?
Rydych yn gosod cypyrddau yn y gegin. Y bwlch ar gyfer y cwpwrdd olaf yw 80 cm. Caiff meintiau’r cypyrddau eu dangos mewn milimetrau. Cwpwrdd o ba faint ddylech chi chwilio amdano?
Rydych eisiau prynu 30 cm o ffabrig. Caiff y ffabrig ei werthu fesul metr. Beth ddylech chi ofyn amdano?
Ateb
20 mm ÷ 10 = 2 cm
54 mm ÷ 10 = 5.4 cm
0.5 cm × 10 = 5 mm
8.6 cm × 10 = 86 mm
400 cm ÷ 100 = 4 m
325 cm ÷ 100 = 3.25 m
12 m × 100 = 1 200 cm
6.8 m × 100 = 680 cm
Mae 10 mm mewn 1 cm, felly rhannwch â 10 yn gyntaf i drosi 450 mm yn 45 cm. Mae 100 cm mewn 1 m, felly rhannwch 45 cm â 100 i gael yr ateb, sef 0.45 m.
Mae 100 cm mewn 1 m, felly lluoswch â 100 yn gyntaf i drosi 2 m yn 200 cm. Mae 10 mm mewn 1 cm, felly lluoswch 200 cm â 10 i gael yr ateb, sef 2 000 mm.
8 km × 1 000 = 8 000 m
500m ÷ 1 000 = 0.5 km
Mae 100 cm mewn 1 m, felly i drosi o fetrau i gentimetrau, mae angen ichi luosi â 100:
1.6 m × 100 = 160 cm
I drosi o gentimetrau i filimetrau, mae angen ichi luosi’r ffigur mewn centimetrau â 10. Y maint yw 80 cm, felly’r ateb yw:
80 × 10 = 800 mm
I drosi o gentimetrau i fetrau, mae angen ichi rannu’r ffigur mewn centimetrau â 100. Hyd y ffabrig mae arnoch ei angen yw 30 cm, felly’r ateb yw:
30 ÷ 100 = 0.3 m
Gweithgaredd 6: Paru’r un mesuriad
Parwch y mesuriadau canlynol:
Gan ddefnyddio'r ddwy restr ganlynol, parwch bob eitem sydd wedi'i rhifo â'r llythyren gywir.
5 m
15 mm
150 mm
50 mm
0.5 km
150 cm
15 m
1.5 km
a.1 500 m
b.15 cm
c.5 cm
d.1 500 cm
e.1.5 cm
f.1.5 m
g.500 m
h.500 cm
- 1 = h
- 2 = e
- 3 = b
- 4 = c
- 5 = g
- 6 = f
- 7 = d
- 8 = a