Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Siartiau milltiredd

Allwch chi feddwl am amser pan mae’n ddefnyddiol gallu deall a gweithio allan pellteroedd rhwng lleoedd? Mae’n ddefnyddiol gwybod pa mor bell oddi wrth ei gilydd yw lleoedd os ydych chi’n cynllunio taith. Os yw’ch gwaith yn golygu llawer o deithio o le i le, mae angen ichi gyfrifo’ch milltiredd fel y gallwch hawlio’n ôl yr arian rydych wedi’i wario ar betrol.

Pa mor bell yw hi o’ch cartref i’r ganolfan siopa agosaf?

Mae’n debyg y bydd eich ateb rhywbeth fel ‘tair milltir’ neu ‘deg cilometr’. Yn aml caiff pellteroedd rhwng lleoedd eu mesur naill ai mewn milltiroedd neu mewn cilometrau. Mae arwyddion ffyrdd yn y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau’n defnyddio milltiroedd, ond yng Nghanada ac Ewrop, er enghraifft, mae’r arwyddion ffyrdd mewn cilometrau. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y ddau?

Mae cilometrau’n fesuriad pellter metrig.

  • 1 000 metr (m) = 1 cilometr (km)

Mae milltiroedd yn fesuriad pellter imperial.

  • 1 filltir = 1 760 llath

Mae un filltir ychydig yn llai na dau gilometr.

Oherwydd bod y rhan fwyaf o fapiau ac arwyddion ffyrdd yn y Deyrnas Unedig yn defnyddio milltiroedd, yn yr adran hon byddwch yn defnyddio milltiroedd.

Os oes rhaid ichi gynllunio taith, mae’n ddefnyddiol edrych ar siart milltiredd. Mae hon yn dangos pa mor bell yw hi rhwng lleoedd:

Described image
Ffigur 10 Siart milltiredd

I ddarllen y siart, edrychwch ar ble byddwch yn dechrau a ble rydych eisiau mynd. Yna dilynwch y rhesi a’r colofnau nes eu bod yn cyfarfod.

Enghraifft: Dod o hyd i’r pellter

Pa mor bell yw hi o Aberystwyth i Lanelli?

Dull

I gyfrifo hyn, mae angen ichi ganfod ble mae Aberystwyth a Llanelli’n cyfarfod ar y siart. Fel y gwelwch o Ffigur 10, mae’n 61 o filltiroedd o Aberystwyth i Lanelli.

Described image
Ffigur 11 Siart milltiredd

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol.

Gweithgaredd 8: Darllen siart milltiredd

Nawr defnyddiwch y siart milltiredd yn Ffigur 10 i ateb y cwestiynau canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion.

  1. Beth yw’r pellter o’r Drenewydd i’r Bala?

  2. Mae gêm nesaf Nomads Cei Connah yn Uwch Gynghrair Cymru yn erbyn y Drenewydd. Pa mor bell fydd rhaid i’r cefnogwyr deithio i wylio’r gêm pêl-droed? (Awgrym: Peidiwch ag anghofio cyfrifo’r pellter ar gyfer y daith adref).

  3. Cae chwarae pa dîm sydd agosaf o ran pellter i gae Nomads Cei Connah?

Ateb

  1. Y pellter rhwng y Drenewydd a’r Bala yw 47 o filltiroedd.

  2. Y pellter o Gei Connah i’r Drenewydd yw 63 o filltiroedd, felly byddai’n rhaid i gefnogwyr y Nomads deithio 126 o filltiroedd (63 × 2).

  3. I gyfrifo hwn, mae’n rhaid ichi wirio’r lleoedd i’r dde o Gei Connah yn y tabl (Llanelli, 148 o filltiroedd; Y Drenewydd, 63 o filltiroedd) a’r trefi i’r chwith o Gei Connah yn y tabl (Caernarfon, 60 o filltiroedd; Y Bala, 38 o filltiroedd; Aberystwyth, 87 o filltiroedd). Felly cae chwarae Tref y Bala fyddai’r agosaf i Nomads Cei Connah.

Enghraifft: Taith yn Ewrop

Edrychwch ar Ffigur 12. Mae ganddo ddyluniad gwahanol i’r siart milltiredd blaenorol.

Mae rhai dinasoedd yn Ewrop wedi’u rhestru i lawr ochr chwith y siart, ac mae cyfres o borthladdoedd wedi’u rhestru ar hyd y top.

Described image
Ffigur 12 Siart milltiredd ar gyfer taith yn Ewrop

Defnyddiwch y siart milltiredd i ganfod y pellter rhwng Florence a Calais.

Dull

I ateb hwn, bydd angen ichi ganfod y rhes ar gyfer Florence, a mynd ar hyd-ddi nes ei bod yn cyfarfod â’r golofn ar gyfer Calais.

Described image
Ffigur 13 Siart milltiredd ar gyfer taith yn Ewrop (ateb)

Y pellter rhwng Florence a Calais yw 860 o filltiroedd.

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol.

Gweithgaredd 9: Taith yn Ewrop

Nawr rhowch gynnig ar y cwestiynau canlynol gan ddefnyddio Ffigur 12.

  1. Pa borthladd sydd agosaf i Florence?

  2. Pa mor bell yw hi o Cologne i Dieppe?

  3. Pe baech chi’n aros yn Amsterdam, p’un fyddai’r porthladd agosaf?

Ateb

  1. TY porthladd agosaf i Florence yw Zeebrugge (821 o filltiroedd).

  2. Y pellter rhwng Cologne a Dieppe yw 328 o filltiroedd.

  3. Pe baech chi’n aros yn Amsterdam, y porthladd agosaf fyddai Hook of Holland (53 o filltiroedd).