2.1 Adio pellteroedd
Mae mwy nag un arhosiad gan lawer o deithiau. Er mwyn cyfrifo pa mor bell mae’n rhaid ichi deithio, mae angen ichi adio’r pellteroedd rhwng yr arosiadau at ei gilydd.
Enghraifft: Y daith gwerthu
Mae’n rhaid i werthwr deithio o Gaeredin i Gaerefrog, yna i Lundain, ac yna yn ôl i Gaeredin. Pa mor bell fydd e’n teithio?
Dull
Defnyddiwch y siart milltiredd i ganfod y pellteroedd rhwng Caeredin a Chaerefrog, Caerefrog a Llundain, a Llundain a Chaeredin.
Y pellter rhwng Caeredin a Chaerefrog yw 186 o filltiroedd.
Mae’n 194 o filltiroedd o Gaerefrog i Lundain.
412 o filltiroedd yw hyd y daith yn ôl o Lundain i Gaeredin.
Cyfanswm hyd y daith yw:
186 + 194 + 412 = 792 o filltiroedd
Defnyddiwch y tabl milltiredd i’ch helpu gyda’r gweithgaredd canlynol. Gwnewch y cyfrifiadau heb ddefnyddio cyfrifiannell. Gallwch ail-wirio’ch atebion gyda chyfrifiannell os oes angen. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.
Gweithgaredd 10: Teithio ar draws y Deyrnas Unedig
Rydych yn defnyddio car llog i fynd o Lundain i Gaerdydd, o Gaerdydd i Lerpwl ac yna’n ôl i Lundain. Rydych yn talu 10c am bob milltir a yrrwch.
a.Faint o filltiroedd mae’n rhaid ichi dalu amdanynt?
b.Faint fyddai hyn yn ei gostio?
Rydych chi’n byw yng Nghaerdydd ond yn mynd i gynhadledd ym Manceinion. Ar ôl y gynhadledd, rydych yn gyrru’n syth i Gaerefrog i aros am ychydig o ddyddiau, cyn dychwelyd i Gaerdydd. Beth fydd cyfanswm hyd eich taith?
Ateb
Mae’r atebion fel a ganlyn:
a.Mae angen ichi chwilio am yr holl bellteroedd ac yna eu hadio at ei gilydd:
Y pellter o Lundain i Gaerdydd yw 150 o filltiroedd.
Y pellter o Gaerdydd i Lerpwl yw 165 o filltiroedd.
Y pellter o Lerpwl i Lundain yw 198 o filltiroedd.
Felly cyfanswm y pellter yw:
150 + 165 + 198 = 513 o filltiroedd
b.Cyfanswm y pellter yw 513 o filltiroedd ac rydych yn talu 10c am bob milltir a yrrwch. Felly byddech yn talu:
513 × 10 = 5 130c
Fel arfer, ni fyddech yn mynegi swm o arian fel hyn, felly rhannwch y cyfanswm hwn â 100 i ganfod y swm mewn punnoedd:
5 130 ÷ 100 = £51.30
Mae angen ichi ddod o hyd i’r holl bellteroedd ac yna eu hadio at ei gilydd. Mae’n 173 o filltiroedd o Gaerdydd i Fanceinion; 66 o filltiroedd o Fanceinion i Gaerefrog; a 231 o filltiroedd o Gaerefrog i Gaerdydd. Felly cyfanswm y pellter yw:
173 + 66 + 231 = 470 o filltiroedd
Crynodeb
Rydych yn awr wedi cwblhau’r gweithgareddau ar ddefnyddio siartiau pellter. Bydd hyn yn eich helpu mewn bywyd pob dydd pan fyddwch yn cynllunio taith a/neu’n hawlio milltiredd pan fyddwch yn teithio ar gyfer eich gwaith.