3.1 Offer mesur
Mae clorian yn dangos ichi faint mae rhywbeth yn ei bwyso. Mae clorian ddigidol yn dangos y pwysau fel rhifau. Mae gan gloriannau eraill ddeial neu res o rifau ac mae’n rhaid ichi ddarllen y pwysau o’r rhain.
Byddwch yn sylwi bod y nodwydd ar y glorian yn y llun ar y dde yn pwyntio at 150 g. Os ydych chi’n defnyddio clorian fel hon, bydd angen ichi wybod y rhaniadau sydd wedi’u marcio arni. Efallai y bydd yn rhaid ichi gyfrif y marciau rhwng y rhifau.
Enghraifft: Canfod pwysau ar glorian
Beth yw pwysau’r blawd yn y glorian hon?
(Noder bod clorian fel hon wedi’i graddnodi i bwyso’r blawd yn y bowlen yn unig – dim ond y blawd yw’r pwysau ar y glorian, nid y blawd a’r bowlen).
Dull
Mae pedwar marc rhwng 50 g a 100 g, pob un yn cynrychioli 10 g arall. Felly mae’r marciau’n cynrychioli 60 g, 70 g, 80 g a 90 g. Mae’r nodwydd ar yr un lefel â’r ail farc, felly 70 g yw’r pwysau.
Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.
Gweithgaredd 11: Darllen clorian
Faint o gramau o siwgr sydd ar y glorian yn y llun isod?
Beth yw pwysau’r person hwn mewn cilogramau?
Beth yw pwysau’r llythyr?
Ateb
Mae naw marc rhwng 100 g a 200 g, felly mae pob marc yn cynrychioli 10 g. Mae’r nodwydd yn pwyntio at y pedwerydd marc ar ôl 100g, felly mae:
100 + 40 = 140 g o siwgr
Mae’r nodwydd hanner ffordd rhwng 60 kg a 70 kg, felly mae’r person yn pwyso 65 kg.
Mae naw marc rhwng 0 g a 100 g, felly mae marc ar bob 10 g. Mae’r nodwydd yn pwyntio at yr ail farc cyn 100g, felly mae’r llythyr yn pwyso:
100 – 20 = 80 g