Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.3 Trosi unedau pwysau metrig

Mae yna adegau pan mae’n rhaid ichi drosi rhwng unedau pwysau metrig. Mae Ffigur 25 yn dangos ichi sut i wneud hyn. Yn yr adran hon, byddwn yn ymarfer trosi rhwng gramau (g) a chilogramau (kg) yn unig.

Awgrym: Weithiau cyfeirir at bwysau fel màs.

Described image
Ffigur 25 Siart trosi pwysau

Enghraifft: Trosi unedau pwysau

  1. Troswch y canlynol o gilogramau i gramau:
    • a.4 kg = ? g
    • b.6 5 kg = ? g
  1. Troswch y canlynol o gramau i gilogramau:
    • a.8 000 g = ? kg
    • b.1  250 g = ? kg

Dull

  1. Fel y gwelwch o Ffigur 25, i drosi o gilogramau (kg) i gramau (g) mae angen ichi luosi â 1 000:
    • a.4 kg × 1 000 = 4 000 g
    • b.6.5 kg × 1 000 = 6 500 g
  1. I drosi o gramau (g) i gilogramau (kg), mae angen ichi rannu â 1 000:
    • a.8 000 g ÷ 1 000 = 8 kg
    • b.1 250 g ÷ 1 000 = 1.25 kg

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol.

Gweithgaredd 13: Trosi unedau pwysau metrig

Cyfrifwch y canlynol heb ddefnyddio cyfrifiannell. Efallai y byddwch eisiau edrych yn ôl ar Sesiwn 1 i’ch atgoffa sut i luosi [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a rhannu â 1 000.

Gallwch ail-wirio’ch atebion gyda chyfrifiannell os oes angen. Cofiwch wirio’ch atebion.

  1. Troswch y canlynol i gilogramau:
    • a.3 000 g
    • b.9 500 g
    • c.750 g
    • d.10 000 g
  1. Troswch y canlynol i gramau:
    • a.4 kg
    • b.1.5 kg
    • c.7.6 kg
    • d.2.25 kg

Ateb

  1. Mae’r atebion fel a ganlyn:
    • a.3 000 g ÷ 1 000 = 3 kg
    • b.9 500 g ÷ 1 000 = 9.5 kg
    • c.750 g ÷ 1 000 = 0.75 kg
    • d.10 000 g ÷ 1 000 = 10 kg
  1. Mae’r atebion fel a ganlyn:
    • a.4 kg × 1 000 = 4 000 g
    • b.1.5 kg × 1 000 = 1 500 g
    • c.7.6 kg × 1 000 = 7 600 g
    • d.2.25 kg × 1 000 = 2 250 g