4 Cynhwysedd
Mae cynhwysedd (a elwir weithiau cyfaint) yn fesuriad o faint o le mae rhywbeth yn ei gymryd.
Pan rydych chi’n prynu llaeth, faint sydd ym mhob potel neu garton? Neu pan rydych chi’n prynu sudd?
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn prynu llaeth mewn cartonau neu boteli un, dau, pedwar neu chwe pheint. Fel arfer, caiff sudd ei werthu mewn cartonau neu boteli un litr.
Mae peintiau’n fesuriad cyfaint imperial, ac mae litrau’n fesuriad cyfaint metrig. Mae litr ychydig yn llai na dau beint. Byddwn yn canolbwyntio ar unedau metrig yma.
Uned fetrig | Talfyriad |
---|---|
millilitr | ml |
centilitr | cl |
litr | l |
Weithiau byddwch yn gweld cynhwysedd wedi’i nodi mewn centilitrau (cl), fel ar ochr potel o ddŵr, lle efallai caiff y mesuriad ei ddangos fel 50 cl neu 500 ml. Fodd bynnag, mililitrau a litrau yw’r unedau cynhwysedd metrig mwyaf cyffredin, felly byddwn yn canolbwyntio ar y rhain yma.
Ffaith allweddol: Mae un litr (1 l) yr un peth â 1 000 millilitr (1 000 ml).