5 Mesur tymheredd
Mae tymheredd yn dweud wrthym pa mor boeth neu oer yw rhywbeth. Byddwch yn gweld neu’n clywed sôn am dymereddau mewn rhagolygon tywydd, a hefyd yn dod ar eu traws mewn ryseitiau neu gyfarwyddiadau eraill.
Caiff tymheredd ei nodi weithiau mewn graddau Celsius (°C) ac weithiau mewn graddau Fahrenheit (°F).
Awgrym: Efallai y byddwch yn gweld yr enw ‘canradd’ ar Celsius weithiau. Noder bod canradd a Celsius yr un peth, yn cyfeirio at yr un raddfa fesur.
Mae dŵr yn rhewi ar 0° Celsius ac yn berwi ar 100° Celsius. Y tymheredd yn y Deyrnas Unedig yn ystod y dydd fel arfer yw rhwng 0° Celsius (0°C) ar ddiwrnod oer o aeaf a 25° Celsius ar ddiwrnod poeth yn yr haf.