5.1 Darllen tymereddau
Mae’n rhaid i lawer o bethau gael eu storio neu eu defnyddio o fewn amrediad tymheredd penodol i fod yn ddiogel. Caiff tymheredd ei fesur gan thermomedr.
Mae thermomedrau at ddefnyddiau gwahanol yn dangos amrediadau tymheredd gwahanol.
Edrychwch ar yr enghraifft ganlynol, sy’n dangos dau fath o thermomedr.
Enghraifft: Darllen thermomedrau
Beth yw’r tymheredd a ddangosir ar bob un o’r thermomedrau isod?
Dull
Ar y thermomedr cyntaf, mae pedwar rhaniad rhwng 20 a 30, felly mae’r rhaniadau’n marcio pob dwy radd (22, 24, 26, 28). Mae’r darlleniad ar yr ail farc ar ôl 20, felly’r tymheredd yw 24°C.
Ar yr ail thermomedr, mae’r tymheredd ar y marc hanner ffordd rhwng 37 a 38, felly mae’n 37.5°C.
Beth yw’r tymheredd heddiw, yn eich barn chi? Os oes thermomedr gennych, gwiriwch y tymheredd y tu allan; os nad oes, gallech ddefnyddio adnodd ar-lein fel tudalennau tywydd y BBC [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] neu’ch ffôn symudol i ganfod y tymheredd yn eich ymyl chi.
Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.
Gweithgaredd 18: Darllen thermomedrau
Pa dymheredd a ddangosir ar bob un o’r thermomedrau hyn?
Ateb
Mae pob marc ar y thermomedr yn cynrychioli 20°C ac mae’r nodwydd ar y marc o dan 400, felly 380°C yw’r tymheredd.
Mae’r darlleniad ar y marc hanner ffordd rhwng 38°C a 39°C, felly 38.5°C yw’r tymheredd.
Mae pob marc yn cynrychioli 2°C, felly 16°C yw’r tymheredd.