5.2 Deall tymheredd
Yn aml mae defnyddio’r tymheredd cywir yn fater o ddiogelwch. Mae’n rhaid i lawer o bethau gael eu storio neu eu defnyddio o fewn amrediad tymheredd penodol i fod yn ddiogel. Efallai na fydd darn o beirianwaith yn gallu gweithio’n iawn o dan isafbwynt tymheredd neu uwchben uchafbwynt tymheredd, neu efallai bydd cyngor ar jar o dabledi ynghylch pa dymheredd y dylid ei gadw arno.
Roedd tymereddau’n arfer cael eu dangos mewn graddau Fahrenheit. Byddwch yn gweld y mesuriadau yma o hyd weithiau. Er enghraifft:
Noder: Mae Fahrenheit yn dal i gael ei ddefnyddio yn Unol Daleithiau America.
Dyma rai tymereddau mewn Celsius a Fahrenheit:
Celsius | Fahrenheit |
---|---|
–18 | 0 |
0 | 32 |
10 | 50 |
20 | 68 |
30 | 86 |
40 | 104 |
50 | 122 |
Edrychwch ar yr enghraifft isod ar gyfer cymharu tymereddau.
Enghraifft: Storio’n ddiogel
Mae gennych gyfarwyddiadau gyda chemegolion a anfonwyd o Unol Daleithiau America fod yn rhaid iddynt gael eu storio ar dymheredd rhwng 50 a 70°F. Mae’r thermomedr ar y tanc storio’n dangos y tymheredd mewn graddau Celsius.
Ydi’r cemegolion yn cael eu storio’n ddiogel?
Dull
O edrych ar y siart cymharu tymereddau, mae 13°C o fewn yr amrediad canlynol:
10°C = 50°F
20°C = 68°F
Daw 13°C rhwng 10°C a 20°C, sy’n golygu ei fod hefyd yn yr amrediad rhwng 50°F a 68°F. Mae’r cemegolion yn cael eu storio’n ddiogel.
Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.
Gweithgaredd 19: Celsius a Fahrenheit
Mae rysáit ar gyfer meringue yn dweud bod yn rhaid ichi ei goginio ar 150°C. Mae’ch popty’n dangos tymereddau mewn Fahrenheit. Pa dymheredd ddylech chi osod y popty arno? (Defnyddiwch y siart trosi isod i’ch helpu.)
Celsius | Fahrenheit |
---|---|
100 | 212 |
150 | 302 |
200 | 392 |
250 | 482 |
300 | 572 |
350 | 662 |
Mae’r thermomedr ar hen rewgell yn dangos y tymheredd mewn graddau Fahrenheit.
Mae rhybudd ar becyn o fwyd yn dweud bod yn rhaid ei storio rhwng –12°C a –25°C. Ydi’r bwyd yn cael ei storio’n ddiogel? (Defnyddiwch y siart trosi isod i’ch helpu).
Celsius | Fahrenheit |
---|---|
–30 | –22 |
–20 | –4 |
–15 | 5 |
–10 | 14 |
–5 | 23 |
0 | 32 |
10 | 50 |
Rhaid diffodd peiriant os yw’r tymheredd yn codi uwchben 600°F. Gan ddefnyddio thermomedr Celsius, rydych yn canfod mai tymheredd y peiriant yw:
Ydi’n ddiogel gadael y peiriant ymlaen? (Defnyddiwch y siart trosi isod i’ch helpu).
Celsius | Fahrenheit |
---|---|
0 | 32 |
50 | 122 |
100 | 212 |
150 | 302 |
200 | 392 |
250 | 482 |
300 | 572 |
350 | 662 |
400 | 752 |
Ateb
Byddwch yn gweld o’r siart trosi bod 150°C yn gywerth â 302°F. Ni fyddai’r popty wedi’i farcio mor gywir â hyn, felly dylech ei osod ar 300°F.
Mae’r thermomedr yn dangos 2°F ac mae angen ichi ganfod y ffigur Celsius cywerth. Pum gradd Fahrenheit yw –15°C; –4°F yw –20°C. Mae’r tymheredd rhwng –15°C a –20°C, felly mae’r bwyd wedi’i storio’n ddiogel.
Mae angen ichi ganfod 600°F ar y siart. Byddwch yn gweld mai 300°C yw 572°F, a bod 350°C yn fwy na 600°F. Mae’r tymheredd ar y deial, 370°C, hyd yn oed yn uwch. Nid yw’r peiriant yn ddiogel felly, ac mae’n rhaid ei ddiffodd.
Crynodeb
Yn yr adran hon, rydych chi wedi canfod ac ymarfer:
sut i ddatrys problemau sy’n galw am gyfrifo sy’n ymgorffori tymheredd
y ffordd gywir i ddarllen tymheredd a’r gwahaniaeth rhwng yr unedau a ddefnyddir.