Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Siapiau

1.1 Polygonau

Yn syml, polygon yw’r term cyffredinol am siâp ag ochrau syth.

Gweithgaredd 1: Adnabod polygonau

Pa rai o’r siapiau canlynol sy’n bolygonau?

Described image
Ffigur 1 Chwe siâp

Ateb

Mae siapiau (a), (c), (d) ac (e) yn bolygonau. Nid yw siapiau (b) a (f) yn bolygonau oherwydd bod ganddynt ochrau crwm.

Polygon rheolaidd yw siâp ag ochrau sydd yr un hyd ac onglau sydd i gyd yr un maint.

Polygon â chwe ochr yw hecsagon. Hecsagonau yw’r ddau siâp yn Ffigur 2, ond dim ond un ohonynt sy’n hecsagon rheolaidd.

Described image
Ffigur 2 Dau hecsagon