1.2 Onglau
Caiff ongl ei ffurfio lle mae dwy linell (neu ochrau) syth yn cyfarfod. Caiff onglau eu mesur mewn graddau, a ddangosir gan y symbol ° ar ôl nifer y graddau. Felly, er enghraifft, ystyr 45° yw ongl 45 gradd.
Noder: Peidiwch â drysu rhwng y rhain a graddau Celsius, canradd neu Fahrenheit, a ddefnyddir i fesur tymheredd.
Mae 360° mewn cylch. Mae 180° mewn hanner troad – hynny yw, o’r gogledd i’r de ar gwmpawd, neu o 9 i 3 ar gloc.
Ongl 90° yw chwarter troad - o’r gogledd i’r dwyrain ar gwmpawd, neu o 12 i 3 ar gloc. Enw arall ar yr ongl hon yw ongl sgwâr. Dangosir ongl sgwâr fel hyn:
Mae onglau sgwâr yn gyffredin iawn mewn bywyd pob dydd. Edrychwch o’ch cwmpas a sylwch faint ohonyn nhw y gallwch eu gweld.
Dyma rai enghreifftiau o ble y gallech fod wedi gweld ongl sgwâr:
corneli eich sgrin (cornel yw lle mae dwy linell yn cyfarfod)
corneli ffenestri
corneli tudalen mewn llyfr
lle mae’r waliau’n cyfarfod â’r llawr
lle mae coesau’r bwrdd yn cyfarfod â phen y bwrdd.
Gelwir ongl lai na 90° yn ongl lem. Gelwir ongl fwy na 90° yn ongl aflem.