1.3 Siapiau 2D a 3D
Mae ‘2D’ neu ‘ddau ddimensiwn’ yn golygu, yn syml, bod y siâp yn wastad. Gallwn luniadu siapiau 2D ar ddarn o bapur. Dangosir enghreifftiau cyffredin yn Ffigur 5.
Mae siâp ‘3D’ (‘tri dimensiwn’) yn siâp solid. Mae ganddo dri dimensiwn, hynny yw, hyd, lled a dyfnder. Ffordd hawdd o feddwl am y gwahaniaeth rhwng siâp 2D ac un 3D yw gofyn ‘Pe bawn i’n disgleirio golau ar y siâp, a fyddai cysgod ganddo?’ Mae siapiau 3D yn creu cysgod ond nid yw rhai 2D yn gwneud.
Mae’n amlwg bod y sgrin rydych chi’n darllen hwn arni yn 2D, felly caiff siapiau 3D eu cynrychioli gan ddefnyddio tywyllu.