1.4 Siapiau 3D cyffredin
Byddwch yn gyfarwydd â rhai siapiau 3D cyffredin.
Awgrym: Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y gwahaniaeth rhwng ciwb (sgwâr 3D) a chiwboid (petryal 3D).
Dangosir rhai siapiau 3D eraill y byddwch efallai yn dod ar eu traws yn Ffigur 9.
Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol.
Gweithgaredd 4: Priodweddau siapiau 3D
Wynebau yw’r enw ar ochrau siapiau 3D. Cwblhewch y tabl canlynol:
Siâp | Nifer y wynebau |
---|---|
Ciwb | |
Pyramid sylfaen sgwâr | |
Sffêr | |
Silindr | |
Ciwboid | |
Côn | |
Pyramid sylfaen triongl | |
Prism triongl |
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
Ateb
Siâp | Nifer y wynebau |
---|---|
Ciwb | 6 |
Pyramid sylfaen sgwâr | 5 |
Sffêr | 1 |
Silindr | 3 |
Ciwboid | 6 |
Côn | 2 |
Pyramid sylfaen triongl | 4 |
Prism triongl | 5 |
Yn ogystal â wynebau, mae gan siapiau 3D ymylon a fertigau (corneli):
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
Cwblhewch y tabl canlynol:
Siâp | Nifer yr ymylon | Nifer y fertigau |
---|---|---|
Ciwb | ||
Pyramid sylfaen sgwâr | ||
Sffêr | ||
Silindr | ||
Ciwboid | ||
Côn | ||
Pyramid sylfaen triongl | ||
Prism triongl |
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
Ateb
Siâp | Nifer yr ymylon | Nifer y fertigau |
---|---|---|
Ciwb | 12 | 8 |
Pyramid sylfaen sgwâr | 8 | 5 |
Sffêr | 0 | 0 |
Silindr | 2 | 0 |
Ciwboid | 12 | 8 |
Côn | 1 | 1 |
Pyramid sylfaen triongl | 6 | 4 |
Prism triongl | 9 | 6 |