3.1 Mesur perimedr siapiau afreolaidd
Enghraifft: Sut i fesur perimedr siâp afreolaidd
Sut fyddech chi’n mesur perimedr siâp afreolaidd – ystafell siâp ‘L’, er enghraifft – pe na bai gennych yr holl fesuriadau angenrheidiol? Gwyliwch y fideo canlynol i gael gwybod.

Transcript
Dyweder bod angen ichi ganfod perimedr y siâp hwn, ond bod dau o’r mesuriadau ar goll. Sut fyddech yn eu canfod nhw? Gallwch dybio bod yr holl gorneli yn onglau sgwâr. Mae angen ichi ddefnyddio’r mesuriadau rydych yn eu gwybod.
Felly os ydych eisiau canfod yr ochr dde sydd ar goll, rydych yn gwybod bod yr ochr chwith sydd gyferbyn yn 12 milimetr o hyd. Ac mae mesuriad arall ar yr un ochr yng nghanol y siâp sy’n 7 milimetr o hyd.
Felly rhaid mai’r hyd sydd ar goll yw’r gwahaniaeth rhwng 7 a 12 milimetr. Dyma swm i ddangos hyn: 12 tynnu 7 yw 5 milimetr. Felly ateb yr ochr dde yw 5 milimetr. Gallwch wirio hwn trwy adio 5 a 7, sy’n gwneud 12 milimetr, yr un peth â’r ochr chwith.
I ganfod yr hyd ar waelod y siâp, oherwydd y gwyddoch fod pob cornel yn ongl sgwâr, gallwch adio’r ddau fesuriad paralel arall a roddir at ei gilydd: 15 adio 8 yw 23 milimetr. Felly hyd gwaelod y siâp yw 23 milimetr.
Nawr eich bod yn gwybod mesuriadau holl ymylon y siâp, gallwch fesur y perimedr. 12 adio 15 adio 7 adio 8 adio 5 adio 23 yw 70 milimetr. Felly 70 milimetr yw’r perimedr.
Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.
Gweithgaredd 8: Canfod y perimedr
Noder y gallwch dybio bod yr holl gorneli yn y lluniau yn y gweithgaredd hwn yn onglau sgwâr.
Mae garddwr yn penderfynu gosod llwybr newydd yn ymyl ei bwll dŵr. Mae’r llun yn dangos dimensiynau’r llwybr.
Mae’r garddwr yn penderfynu peintio llinell wen o gwmpas perimedr y llwybr. Beth yw perimedr y llwybr?
Mae gan ganolfan wybodaeth i dwristiaid estyniad newydd.
Mae’r bwrdd twristiaeth eisiau gosod streipen aur o gwmpas border llawr yr adeilad. Beth yw perimedr yr estyniad newydd?
Ateb
I gyfrifo’r ochrau coll, dylech fod wedi gwneud y cyfrifiadau canlynol:
14 – 3 = 11
15 – 1.5 = 13.5
Nawr eich bod wedi canfod yr ochrau coll, gallwch eu hadio i gyd at ei gilydd:
15 + 14 + 1.5 + 3 + 13.5 + 11 = 58 m
Er mwyn cyfrifo’r ochrau coll, mae angen ichi wneud y cyfrifiadau canlynol er mwyn cyfrifo’r perimedr:
5 – 2 = 3
6 – 2 = 4
Nawr eich bod wedi canfod yr ochrau coll, gallwch eu hadio i gyd at ei gilydd i gyfrifo’r perimedr:
6 + 3 + 3 + 1 + 1 + 2 + 2 + 4 = 22 m
Crynodeb
Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu sut i weithio allan perimedr siapiau syml ac afreolaidd.