5 Cyfaint
Cyfaint yw’r mesuriad o faint o ofod sydd mewn gwrthrych solid (3D). Caiff cyfaint ciwb neu giwboid ei fesur trwy luosi hyd â lled ag uchder. Caiff ei fesur bob amser mewn unedau ciwbig, fel mm3, cm3, m3, ac ati.
Enghraifft: Cyfaint ciwboid
Beth yw cyfaint bocs sydd â hyd o 8 cm, lled o 4 cm ac uchder o 2 cm?
Dull
Y cyfaint yw:
8 cm × 4 cm × 2 cm
Gallwch ysgrifennu hyn hefyd fel:
32 cm (8 cm × 4 cm) × 2 cm = 64 cm3
Gwyliwch y clip canlynol i weld mwy o enghreifftiau:
Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol.
Gweithgaredd 11: Cyfrifo cyfaint
Cyfrifwch y cyfeintiau canlynol:
Awgrym: Fel yn achos perimedr ac arwynebedd, efallai bydd angen ichi drosi i wneud yr unedau yr un peth.
Hyd | Lled | Uchder | Cyfaint |
---|---|---|---|
6 m | 2 m | 3 m | |
10 mm | 10 mm | 10 mm | |
36 mm | 2 cm | 4 cm | |
9 m | 2 m | 180 cm |
Lled pwll tywod plant yw 1 m a’i hyd yw 1.5 m. Pa gyfaint o dywod fyddai ei angen i lenwi’r pwll i ddyfnder o 10 cm? (Noder bod dyfnder yr un peth ag uchder ond wedi’i fesur ar i lawr.)
Mae Dai wedi adeiladu storfa pren llosgi sy’n mesur 2 m × 1 m × 1 m. Mae Dai eisiau archebu pren yn barod at y gaeaf. Dim ond mewn llwythi 1.5 m3 mae’r cyflenwr lleol yn gwerthu pren. Fydd storfa Dai yn ddigon mawr i ddal un llwyth?
Ateb
Mae’r ateb fel a ganlyn:
Hyd | Lled | Uchder | Cyfaint |
---|---|---|---|
6 m | 2 m | 3 m | 36 m3 |
10 mm | 10 mm | 10 mm | 1 000 mm3 |
36 mm (trosi i 3.6 cm) | 2 cm | 4 cm | 28.8 cm3 |
9 m | 2 m | 180 cm (trosi i f 1.8 m) | 32.4 m3 |
Yn gyntaf mae angen ichi drosi 10 cm yn fetrau – mae’n 0.1 m. Yna gallwch gyfrifo’r arwynebedd:
1 m × 1.5 m × 0.1 m = 0.15 m3
Cyfaint storfa Dai yw 2 m × 1 m × 1 m = 2 m3 , felly bydd yn ddigon mawr i ddal un llwyth o’r pren llosgi.
Crynodeb
Yn yr adran hon, rydych wedi cyfrifo cyfaint ciwbiau a chiwboidau.