Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6 Lluniadau wrth raddfa

Ydych chi erioed wedi lluniadu cynllun o ystafell yn eich tŷ i’ch helpu i weithio allan sut i ad-drefnu’r dodrefn? Neu efallai eich bod wedi tynnu braslun o’ch gardd i’ch helpu i benderfynu pa mor fawr y dylai patio newydd fod?

Lluniadau wrth raddfa yw enw’r lluniau hyn. Y peth pwysig am luniadau wrth raddfa yw bod angen lluniadu popeth wrth raddfa, sy’n golygu bod yn rhaid i bopeth fod yn gyfraneddol – hynny yw, wedi’i leihau gan yr un maint.

Rhaid bod graddfa gan bob lluniad wrth raddfa i ddweud wrthym gan faint mae’r llun wedi’i leihau.

Enghraifft: Yn yr ardd

Dyma enghraifft o luniad wrth raddfa nodweddiadol:

Described image
Ffigur 28 Lluniad wrth raddfa o ardd

Beth yw hyd a lled y patio?

Awgrym: Mae’r lluniad wrth raddfa hwn wedi’i luniadu ar bapur sgwariau. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i’w luniadu a’i ddeall. Mae pob sgwâr 1 cm o led ac 1 cm o hyd. Felly yn lle defnyddio pren mesur, gallwch gyfrif nifer y sgwariau a bydd hyn yn dweud wrthych chi beth yw’r mesuriad mewn centimetrau.

Dull

Y raddfa yn y lluniad hwn yw 1:100. Mae hyn yn golygu bod 1 cm ar y lluniad wrth raddfa yn gyfwerth â 100 cm, neu 1 m, mewn bywyd go iawn. Unwaith y byddwn yn gwybod beth yw’r raddfa, gallwn fesur y pellteroedd ar y lluniad.

Gan ddefnyddio pren mesur (neu gyfrif y sgwariau), rydym yn canfod bod y patio 5 cm o hyd a 3 cm o led ar y lluniad. Mae hyn yn golygu bod y patio 5 metr o hyd a 3 metr o led mewn bywyd go iawn.

Felly pan rydych yn gweithio gyda lluniadau wrth raddfa:

  • Canfyddwch beth yw’r raddfa ar y lluniad.

  • Mesurwch y pellter ar y lluniad gan ddefnyddio pren mesur (neu cyfrwch nifer y sgwariau, os yw hynny’n opsiwn). Efallai bod y mesuriadau eisoes wedi’u rhoi ar y lluniad.

  • Lluoswch y pellter a fesurwch â’r raddfa, i gael y pellter mewn bywyd go iawn.

  • Os ydych eisoes yn gwybod y mesuriad mewn bywyd go iawn ac angen gweithio allan y mesuriad ar y lluniad, rydych yn rhannu â’r raddfa.

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 12: Cael gwybodaeth o luniad wrth raddfa

  1. Dewch inni aros gyda’r lluniad wrth raddfa hwn o’r ardd.

    Described image
    Ffigur 29 Lluniad wrth raddfa o ardd
    • a.Beth yw hyd a lled gwirioneddol yr ardd lysiau?

    • b.Beth yw hyd a lled gwirioneddol y gwely blodau?

    • c.Pa mor bell yw’r patio o’r ardd lysiau mewn bywyd go iawn?

    • d.Dyweder eich bod eisiau rhoi trampolîn rhwng y patio a’r ardd lysiau. Mae’n mesur 3 m wrth 3 m mewn bywyd go iawn. Oes digon o le iddo?

  2. Mae Tom yn defnyddio lluniad wrth raddfa i gynllunio patio mae’n mynd i’w osod. Mae’n defnyddio graddfa 1 cm : 50 cm. Mae’r patio ar ei luniad yn mesur 4 cm wrth 8 cm. Beth yw dimensiynau’r patio go iawn?

  3. Mae Amanda yn creu cynllun o lawr gwaelod ei thŷ, gan ddefnyddio graddfa 1 cm : 2 m. Mae’r gegin go iawn yn mesur 5 m wrth 6 m. Beth fydd y mesuriadau ar gyfer y gegin ar y cynllun?

Ateb

  1. Mae’r atebion fel a ganlyn:

    • a.Mae’r ardd lysiau yn 5 m o hyd a 2 m o led.

    • b.Mae’r gwely blodau yn 6 m o hyd a 2 m o led.

    • c.Mae 3 m rhwng y patio a’r ardd lysiau.

    • d.Y pellter rhwng y patio a’r ardd lysiau yw 3 m, a lled y trampolîn yw 3 m. Felly byddai’r trampolîn yn mynd i’r gofod, ond byddai’n dynn iawn.

  2. Y raddfa yw 1 cm : 50 cm. Mae dau fesuriad i’w gweithio allan, felly mae angen ichi wneud un ar y tro. Dechreuwn gyda’r lled o 4 cm:

    • 1 cm : 50 cm

    • 4 cm : ? cm

    Rydych yn gwybod beth yw’r mesuriad ar y lluniad, felly mae angen ichi luosi i ganfod y mesuriad mewn bywyd go iawn:

    • 4 × 50 = 200 cm

    Yna gallech drosi’r mesuriad hwn yn fetrau. Mae 100 cm mewn 1 metr, mae angen ichi rannu â 100:

    • 200 ÷ 100 = 2 m

    Felly lled y patio go iawn yw 2 m.

    Byddwn yn awr yn gweithio allan hyd y patio go iawn. Yr un yw’r raddfa:

    • 1 cm : 50 cm

    • 8 cm : ? cm

    Eto, rydych yn gwybod beth yw’r mesuriad ar y lluniad, felly mae angen ichi luosi i ganfod y mesuriad mewn bywyd go iawn:

    • 8 × 50 = 400 cm

    Eto, gallwn rannu’r mesuriad hwn â 100 i’w fynegi mewn metrau:

    • 400 ÷ 100 = 4 m

    Felly hyd y patio go iawn yw 4 m.

  3. Y raddfa yw 1 cm : 2 cm. Mae dau fesuriad i’w gweithio allan, felly mae angen ichi wneud un ar y tro. Dechreuwn gyda’r lled o 5 m:

    • 1 cm : 2 m

    • ? cm : 5 m

    Gan eich bod yn gwybod beth yw’r mesuriad go iawn, mae angen ichi rannu i ganfod mesuriad y cynllun:

    • 5 ÷ 2 = 2.5 cm

    Byddwn yn awr yn gweithio allan yr hyd. Yr un yw’r raddfa:

    • 1 cm : 2 m

    • ? cm : 6 m

    Eto, mae angen inni weithio allan mesuriad y cynllun, felly mae angen inni rannu:

    • 6 ÷ 2 = 3 cm

    Felly ar y cynllun, bydd y gegin yn mesur 2.5 cm wrth 3 cm.

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu sut i ddefnyddio lluniadau wrth raddfa.