Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

10 Tebygolrwydd

Tebygolrwydd yw mesur pa mor debygol yw hi y bydd rhywbeth yn digwydd. Rydym yn defnyddio tebygolrwydd mewn ffyrdd gwahanol mewn bywyd go iawn:

  • Mae bwcis yn defnyddio math o debygolrwydd i roi ods betio ar unrhyw beth.

  • Mae cwmnïau yswiriant yn defnyddio tebygolrwydd i benderfynu faint i’w godi am yr holl fathau gwahanol o yswiriant sydd.

  • Mae adrannau’r llywodraeth yn defnyddio tebygolrwydd ac ystadegau i’w helpu i lywodraethu’r wlad.

(Mae tebygolrwydd yn perthyn i’r gair ‘tebygol ’. Efallai y byddech chi’n dweud, ‘Pa mor debygol yw hi y bydd hynny’n digwydd?’)

Bydd gweithio trwy’r adran hon yn eich galluogi i:

  • ddeall y posibilrwydd y bydd digwyddiadau gwahanol yn digwydd

  • dangos bod rhai digwyddiadau’n fwy tebygol o ddigwydd nag eraill

  • deall a defnyddio graddfeydd tebygolrwydd

  • dangos y tebygolrwydd y bydd digwyddiadau’n digwydd gan ddefnyddio ffracsiynau, degolion a chanrannau.

Tebygolrwydd yw mesur pa mor debygol yw hi y bydd rhywbeth yn digwydd. Edrychwch ar y gair: ‘tebygolrwydd’. Allwch chi weld ei fod yn cynnwys y gair ‘tebygol ’?

Rydyn ni’n gwybod bod bywyd yn llawn dewisiadau a siawns, neu fod rhai pethau’n fwy tebygol o ddigwydd nag eraill.

Er enghraifft, gallech ddweud, ‘Efallai wna i dorri’r glaswellt yfory’. Byddai tebygolrwydd yn cael ei ddefnyddio i fesur pa mor debygol yw hi y byddwch chi’n torri’r glaswellt. Mae yma ddau opsiwn: naill ai rydych chi’n torri’r glaswellt neu dydych chi ddim.

Pe baech chi’n gwybod y bydd hi’n bwrw glaw yfory a bod gennych lawer o bethau eraill i’w gwneud (a’ch bod chi’n casáu torri glaswellt) byddai’r tebygolrwydd y byddwch chi’n torri’r glaswellt yn isel, neu sero hyd yn oed! Ond ar y llaw arall, pe baech chi wir yn bwriadu torri’r glaswellt a bod rhagolygon y tywydd yn dda, byddai’r tebygolrwydd y byddwch yn torri’r glaswellt yn uchel.

Rydym yn defnyddio tebygolrwydd i roi syniad inni pa mor debygol yw hi y bydd rhywbeth yn digwydd. Mae’n rhoi system mesur inni.

  • Os yw rhywbeth yn debygol iawn o ddigwydd, mae’r tebygolrwydd yn uchel.

  • Os nad yw rhywbeth yn debygol iawn o ddigwydd, mae’r tebygolrwydd yn isel.

Enghraifft: Pa mor debygol yw hynny?

Beth yw’r tebygolrwydd:

  • y byddwch yn ennill y loteri yr wythnos hon?

  • y byddwch yn gwlychu yn y glaw?

  • y bydd yr haf yn dilyn y gwanwyn?

Mae’r tebygolrwydd y byddwch yn ennill y loteri’r wythnos hon yn isel iawn, a’r tebygolrwydd y byddwch yn gwlychu yn y glaw ac y bydd yr haf yn dilyn y gwanwyn yn uchel.

Wrth gwrs, mae siawns deg y bydd rhai pethau’n digwydd. Er enghraifft, os taflwch ddarn arian, mae tebygolrwydd cyfartal y bydd yn glanio naill ai ar ei ben neu ar ei gynffon. Gallech hefyd alw hyn yn siawns deg, neu siawns hanner-hanner, y bydd y darn arian yn glanio naill ai ar ei ben neu ar ei gynffon.

Faint o bethau allwch chi feddwl amdanynt sydd â thebygolrwydd gwahanol o ddigwydd?

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.

Gweithgaredd 18: Tebygolrwydd y bydd digwyddiadau’n digwydd

Faint o bethau allwch chi feddwl amdanynt sydd â thebygolrwydd gwahanol o ddigwydd? Meddyliwch am enghreifftiau ac yna gwiriwch eich syniadau yn erbyn yr atebion a awgrymir.

Os na allwch feddwl am unrhyw beth, gallai’ch enghreifftiau gynnwys:

  • y bydd y lleuad yn codi heno

  • taflu darn arian a’i fod yn glanio ar ben

  • y bydd tagfa draffig ar ryw adeg eleni ar yr M25

  • y cewch eich herwgipio gan greaduriaid o blaned arall

  • y byddwch yn ennill y loteri

  • y bydd baban yn cael ei eni’n fachgen.

Yn amlwg, mae yna lawer o enghreifftiau eraill.

Wrth edrych ar y digwyddiadau rydych wedi meddwl amdanynt, beth yw’r tebygolrwydd y bydd pob un yn digwydd? Rhowch eich digwyddiad yn y golofn gywir yn y tabl.

Digwyddiadau â thebygolrwydd uchel o ddigwyddDigwyddiadau â siawns deg o ddigwyddDigwyddiadau â thebygolrwydd isel o ddigwydd
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Ateb

Does dim un ateb cywir i’r gweithgaredd hwn. Edrychwch ar ein hawgrymiadau isod:

Digwyddiadau â thebygolrwydd uchel o ddigwyddDigwyddiadau â siawns deg o ddigwyddDigwyddiadau â thebygolrwydd isel o ddigwydd
Y lleuad yn codi henoTaflu darn o arian a’i fod yn glanio ar ei benEnnill y loteri
Tagfa draffig ar ryw adeg eleni ar yr M25Baban yn cael ei eni’n fachgenCael eich herwgipio gan greaduriaid o blaned arall