12 Crynodeb o Sesiwn 4
Rydych yn awr wedi cwblhau Sesiwn 4, ‘Trin data’. Os ydych wedi nodi unrhyw feysydd mae angen ichi weithio arnynt, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio’n ôl at yr adran hon o’r cwrs.
Erbyn hyn dylech chi fod yn gallu:
cael a dehongli gwybodaeth o dablau, diagramau, siartiau a graffiau
casglu a chofnodi data arwahanol, a threfnu a chynrychioli gwybodaeth mewn ffyrdd gwahanol
canfod cymedr ac amrediad grŵp o rifau
defnyddio data i asesu tebygolrwydd canlyniad.
Bydd yr holl sgiliau a restrir uchod yn eich helpu wrth archebu gwyliau, darllen y papur newydd neu ddadansoddi canlyniadau yn eich gweithle.