Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

13 Dod â phopeth ynghyd

Llongyfarchiadau ar gwblhau Mathemateg pob dydd 1. Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau’r profiad ac yn awr wedi’ch ysbrydoli i ddatblygu’ch sgiliau mathemateg ymhellach.

Drwy gydol y cwrs hwn, rydych wedi datblygu’ch sgiliau yn y meysydd canlynol:

  • deall a defnyddio rhifau cyfan, a deall rhifau negatif mewn cyd-destunau ymarferol

  • adio, tynnu, lluosi a rhannu rhifau cyfan gan ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau

  • deall a defnyddio cywertheddoedd rhwng ffracsiynau, degolion a chanrannau cyffredin

  • adio, tynnu, lluosi a rhannu degolion hyd at ddau le degol

  • datrys problemau syml sy’n ymwneud â chymarebau

  • datrys problemau sy’n galw am gyfrifo gyda mesuriadau cyffredin, gan gynnwys amser, hyd, pwysau, cynhwysedd a thymheredd

  • trosi unedau mesur yn yr un system

  • cael a dehongli gwybodaeth o dablau, siartiau a graffiau

  • casglu a chofnodi data arwahanol, a threfnu a chynrychioli gwybodaeth mewn ffyrdd gwahanol

  • canfod cymedr ac amrediad grŵp o rifau

  • defnyddio data i asesu tebygolrwydd canlyniad

  • adnabod siapiau gwahanol

  • gweithio gydag arwynebedd a pherimedr, a lluniadau wrth raddfa.