Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Trin data

Beth yw ystyr trin data?

Dyma ddiffiniadau o’r geiriau:

  • Trin: Defnyddio, gweithredu, rheoli.

  • Data: Ffeithiau, yn arbennig ffeithiau rhifiadol, wedi’u casglu at ei gilydd er cyfeiriad neu wybodaeth.

Felly, ystyr yr ymadrodd ‘trin data’ yw gallu darllen, deall a dehongli ffeithiau a ffigurau.

Rydych yn gwneud hyn bob dydd os ydych yn edrych ar amserlenni bysiau a threnau, neu ddiagramau, siartiau a graffiau. Mae’r rhain i gyd yn dangos gwybodaeth gymhleth mewn ffordd mor syml â phosibl.

Yn wir, mae pentyrrau o ddata o’ch cwmpas! Os ydych yn archebu gwyliau gan ddefnyddio llyfryn, mae hwn yn llawn data mae angen ichi eu deall. Er enghraifft:

  • tablau sy’n dangos rhestrau prisiau

  • mapiau neu ddiagramau sy’n dangos ble mae’r gyrchfan gwyliau neu’r pellter i’r maes awyr

  • siartiau a graffiau i ddangos y tymereddau a’r oriau o heulwen.

Efallai y bydd y llyfryn yn darparu’r holl wybodaeth mae arnoch ei hangen i gymharu gwyliau a dewis yr un rydych ei eisiau. Os gallwch, edrychwch trwy lyfryn gwyliau i weld drosoch eich hun: mae’r tablau, siartiau, graffiau a diagramau yn ei gwneud yn haws deall y wybodaeth.