3 Pictogramau
Un ffordd syml iawn o ddangos data yw pictogramau, sy’n defnyddio lluniau i gyfrif â nhw. Mae pictogramau’n cael effaith weledol gref.
Fel yn achos tablau, mae angen ichi benderfynu ar eich teitl ac ystyr pob rhes o’r pictogram. Mae hefyd angen ichi benderfynu ar eich allwedd. Mae’r allwedd yn dweud wrth y darllenydd beth mae’r llun rydych yn ei ddefnyddio yn ei olygu.
Mae’r pictogram canlynol yn dangos nifer y ceir sy’n defnyddio lle golchi ceir ar wahanol adegau yn ystod yr wythnos:
Y peth pwysig i’w gofio am bictogramau yw bod angen allwedd i ddweud wrth y darllenydd beth mae’r llun yn ei olygu. Yn yr enghraifft uchod, mae llun un car yn golygu bod un car wedi defnyddio’r lle golchi ceir. Ond yn yr enghraifft nesaf, sy’n dangos nifer y bobl sy’n prynu petrol o garej rhwng 2 a 3 p.m. ar brynhawniau Sul a Llun, caiff yr allwedd ei defnyddio’n wahanol:
Mae angen allwedd ar bob pictogram – ond does dim un gan hwn!Efallai eich bod yn meddwl bod yn golygu un person yn prynu petrol.
Mewn gwirionedd, ystyr yw pedwar person yn prynu petrol, ac ystyr
yw tri pherson yn prynu petrol.
Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.
Gweithgaredd 8: Dehongli allwedd
Allwch chi weithio allan beth yw ystyr a beth yw ystyr
?
Ateb
Ystyr yw dau berson yn prynu petrol ac ystyr
yw un person yn prynu petrol.
Felly gellir defnyddio’r allwedd i ddangos mwy nag un eitem. Gellid gwneud hyn i’w gwneud yn haws lluniadu’r pictogram wrth weithio gyda rhifau mwy.
Mae’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn deall beth mae’r allwedd yn ei olygu fel y gallwch ddeall y data’n gywir.
Mae manteision ac anfanteision i ddefnyddio pictogramau. Ar y naill law, maen nhw’n hawdd eu deall. Ar y llaw arall, fodd bynnag, dim ond ychydig o bethau y gallan nhw eu dangos.
Gweithgaredd 9: Creu pictogram
Mae’r tabl canlynol yn dangos nifer y bobl sy’n aros yn y swyddfa bost leol ar wahanol amserau yn ystod y dydd:
Amser | Nifer |
---|---|
9 a.m. | 4 |
11 a.m. | 2 |
1 p.m. | 7 |
3 p.m. | 1 |
5 p.m. | 3 |
Dangoswch y wybodaeth hon fel pictogram gan ddefnyddio allwedd briodol, er enghraifft amlen i gynrychioli dau berson.
Crynodeb
Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu sut i gyflwyno data mewn pictogramau.