5 Siartiau Bar
Ffordd arall o gyflwyno gwybodaeth yw siart bar.
Mae siartiau bar yn ddefnyddiol oherwydd eu bod yn dangos data’n glir. Rhaid iddynt gynnwys y wybodaeth ganlynol:
Teitl sy’n esbonio beth mae’r siart bar yn ei olygu.
Labeli sy’n dweud wrthych chi beth mae pob bar yn ei olygu. Gallai hyn fod yn allwedd neu’n label o dan y llinell sy’n rhedeg ar hyd gwaelod y graff bar (yr echelin lorweddol).
Rhaid bod gan y llinell sy’n mynd i fyny ochr chwith y graff bar (yr echelin fertigol) rifau ar gyfyngau rheolaidd (graddfa). Mae hon yn dweud wrthych chi pa mor fawr yw’r bariau fel y gall y darllenydd ddarllen y data.
Enghraifft: Arolwg traffig
Dewch inni edrych ar y data o arolwg traffig sy’n cael eu dangos mewn tabl:
Lliw’r car | Nifer y ceir |
---|---|
Llwyd | 4 |
Du | 3 |
Coch | 1 |
Glas | 2 |
Gwyn | 1 |
Gallai’r data hyn gael eu cyflwyno mewn siart bar, fel a ganlyn:
Dull
Cyn ichi ddechrau lluniadu’ch siart bar, mae angen ichi benderfynu beth fydd eich labeli a pha gyfyngau rhif y byddwch yn eu defnyddio – hynny yw, pa mor ‘dal’ fydd eich bariau.
I wneud hyn mae angen ichi edrych ar eich data a chanfod y nifer fwyaf o achosion (hynny yw, y categori mwyaf). Nid yw hyn yn rhy anodd yn yr arolwg traffig hwn: y nifer fwyaf o geir mewn un categori yw’r ‘ceir llwyd’, oedd â phedwar car.
Mae hyn yn golygu mai 4 yw’r rhif mwyaf ar yr echelin fertigol. Mae’r rhifau yn yr arolwg yn ddata arwahanol – allwch chi ddim fod â hanner car! – felly 0, 1, 2, 3 a 4 fydd y rhifau ar yr echelin hon. Dylai’r echelin fertigol ddechrau ar 0 bob amser a chodi gan yr un faint bob tro. Gallwn gael y label i’r echelin hon o’r tabl: ‘Nifer y ceir’.
Awgrym: Mae data arwahanol yn ddata sy’n cynnwys pethau sydd ar wahân ac y gellir eu cyfrif.
Nawr mae angen ichi benderfynu faint o farrau y byddwch yn eu lluniadu. Mae hyn wedi’i benderfynu eisoes oherwydd mae pum categori yn yr arolwg:
ceir llwyd
ceir du
ceir coch
ceir glas
ceir gwyn.
Felly bydd pum bar ar hyd echelin lorweddol y siart bar, y dylid eu labelu ‘Lliw’r car’.
Pan fyddwch wedi lluniadu’r echelinau a’r labeli, gallwch luniadu’r bariau fel a ganlyn:
Defnyddiwch bren mesur.
Uchder pob bar yw’r rhif sydd gennych ar gyfer y categori hwnnw.
Rhaid i led y bariau fod yn gyfartal.
Pan fyddwch wedi gorffen lluniadu’ch siart bar, peidiwch ag anghofio rhoi teitl iddo.
Crynodeb o’r dull
Canfyddwch beth yw’r nifer fwyaf o eitemau. Bydd hyn yn rhoi ichi’r rhif mwyaf ar yr echelin fertigol (yr un ar yr ochr chwith). Hwn fydd maint y bar talaf.
Penderfynwch faint o farrau i’w lluniadu: hwn yw nifer y categorïau. Dylai lled y bariau fod yn gyfartal.
Lluniadwch eich echelinau a’u labelu.
Defnyddiwch bren mesur i l bariau ’ch bariau .
Penderfynwch ar deitl i’ch siart bar.
Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.
Gweithgaredd 11: Creu siart bar
Mae’r tabl canlynol yn dangos nifer yr hediadau o faes awyr rhanbarthol ar un diwrnod o’r wythnos gan wahanol gwmnïau awyrennau.
Cwmni awyrennau | Nifer yr hediadau |
---|---|
Reilly Air | 3 |
Easyfly | 4 |
English Airways | 1 |
Lluniadwch siart bar i ddangos y data hyn. Cofiwch labelu eich echelin a rhoi teitl i’ch siart.
Ateb
Ystyriwch yr awgrymiadau canlynol cyn mynd ymlaen:
Pedwar yw’r nifer fwyaf o hediadau ar un diwrnod, felly mae’n rhaid ichi sicrhau bod yr echelin fertigol yn dechrau ar 0 ac yn mynd i fyny i 4.
Rhaid ichi labelu’r echelin lorweddol ag enwau’r cwmnïau awyrennau a’r echelin fertigol â nifer yr hediadau.
Rhaid i’r teitl ddweud yn glir pa ddata mae’r siart bar yn eu dangos.
Dylai’ch graff edrych rhywbeth fel y canlynol:
Gyda rhifau mwy, efallai na fydd eich graddfa’n codi fesul un. Efallai y bydd eich graddfa’n codi fesul dau, pump neu ddeg ac ati, gan ddibynnu ar y rhifau rydych chi’n gweithio gyda nhw. Y peth pwysig i’w gofio yw bod yn rhaid i’r raddfa godi fesul cyfyngau cyfartal.
Gweithgaredd 12: Creu siart bar arall
Mae’r tabl canlynol yn dangos nifer y brechdanau gwahanol sy’n cael eu gwerthu gan gaffi lleol mewn un wythnos:
Math o frechdan | Nifer y brechdanau a werthir |
---|---|
Caws | 35 |
Tiwna | 18 |
Wy | 24 |
Cyw iâr | 40 |
Bacwn | 38 |
Lluniadwch siart bar i gynrychioli’r data hyn. Peidiwch ag anghofio labelu’ch echelin, rhoi teitl i’ch siart a gwneud yn siŵr eich bod yn defnyddio graddfa addas.
Ateb
Y nifer fwyaf o frechdanau a werthwyd yw 40, felly dylech sicrhau bod yr echelin fertigol yn dechrau ar 0 ac yn mynd i fyny i 40. Mae hwn yn rhif eithaf mawr, felly efallai y bydd eich graddfa’n mynd i fyny mewn cynyddiadau o bump neu hyd yn oed deg.
Rhaid ichi ychwanegu enwau llenwadau’r brechdanau i’r echelin lorweddol a rhoi labeli addas i’r echelinau – er enghraifft, ‘Llenwadau brechdanau’ ar gyfer yr echelin lorweddol a ‘Nifer y brechdanau a werthwyd’ ar gyfer yr echelin fertigol.
Rhaid i’r teitl ddweud yn glir pa ddata mae’r siart bar yn eu dangos.
Dylai’ch siart bar edrych rhywbeth fel hyn:
Gellir creu graffiau’n hawdd ar gyfrifiadur. Mae yna fideos ar YouTube a all eich helpu i ddysgu sut i wneud hyn.
Crynodeb
Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu sut i gyflwyno data mewn siartiau bar.