6 Graffiau llinell
Nawr eich bod wedi edrych ar siartiau cylch a siartiau bar, dewch inni edrych ar graffiau llinell. Caiff y rhain eu lluniadu trwy farcio (neu blotio) pwyntiau ac yna tynnu llinell syth rhyngddynt. Efallai eich bod wedi eu gweld mewn llyfrynnau gwyliau neu o bosibl ar y teledu.
Awgrym: Mae’n well defnyddio papur graff neu bapur sgwariau wrth luniadu graffiau llinell, oherwydd mae’n ei gwneud yn haws plotio’r pwyntiau.
Enghraifft: Y gwerthwr tai
Sut fyddech chi’n cyflwyno gwybodaeth fel graff llinell? Gwyliwch y fideo canlynol i gael gwybod.
Transcript
Dyma dabl yn dangos nifer y tai a werthwyd gan werthwr tai dros gyfnod o chwe mis. Sut allech chi gynrychioli’r wybodaeth hon fel graff llinell?
I luniadu hyn mewn graff, yn gyntaf mae angen ichi luniadu’r echelinau. Mae'r misoedd yn mynd ar yr echelin waelod (llorweddol) a’r gwerthiannau tai i fyny’r ochr chwith ar yr echelin fertigol.
Nesaf, mae angen inni benderfynu sut i rannu’r echelinau. Mae chwe mis, felly bydd chwe marc ar yr echelin lorweddol. Y nifer fwyaf o dai a werthwyd oedd 9, felly aiff yr echelin fertigol o 0 i 10.
Nawr gallwn ddechrau marcio ein pwyntiau. Gan ddechrau â rhes gyntaf y tabl, ewch i fyny llinell mis Ionawr. Pan gyrhaeddwch y llinell ar draws wedi’i marcio 2, gwnewch groes fach. Gwnewch hyn ar gyfer y pwyntiau eraill. Yn olaf, tynnwch linell rhwng y pwyntiau gan ddefnyddio pren mesur, ac ychwanegwch eich teitl.
Dyma grynodeb. I luniadu graff llinell, mae angen ichi luniadu’r echelinau llorweddol a fertigol a’u labelu. Rhannwch yr echelinau yn raddfeydd addas, i wneud hyn, mae angen ichi edrych ar y data a chanfod beth yw’r rhif lleiaf a’r rhif mwyaf. Plotiwch y pwyntiau o’ch data gan ddefnyddio pensil i wneud croesau bach. Tynnwch linell rhwng y pwyntiau gan ddefnyddio pren mesur, a rhowch deitl i’ch graff.
Crynodeb o’r dull
I luniadu graff llinell, mae angen ichi:
luniadu’r echelinau llorweddol a fertigol, a’u labelu
rhannu’r echelinau hyn yn raddfeydd addas – i wneud hyn, mae angen ichi edrych ar y data a chanfod beth yw’r rhif lleiaf a’r rhif mwyaf
plotio’r pwyntiau o’ch data, gan ddefnyddio pensil i wneud croesau bach
tynnu llinell rhwng y pwyntiau gan ddefnyddio pren mesur
rhoi teitl i’ch graff.
Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol. Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.
Gweithgaredd 13: Creu graff llinell
Yn aml, defnyddir graffiau llinell mewn llyfrynnau gwyliau i ddangos y tymereddau neu’r oriau o heulwen mewn cyrchfan benodol.
Mae’r tabl canlynol yn dangos yr oriau o heulwen mewn cyrchfan gwyliau. Gan ddefnyddio’r data o’r tabl, lluniadwch graff llinell ac yna atebwch y cwestiynau isod.
Mis | Oriau o heulwen |
---|---|
Mai | 6 |
Mehefin | 7 |
Gorffennaf | 8 |
Awst | 9 |
Medi | 8 |
Hydref | 7 |
Pa fis oedd yr un mwyaf heulog?
Ym mha fis cafwyd yr heulwen leiaf?
Ateb
Wrth luniadu’ch graff llinell, dylech:
luniadu’r echelin lorweddol gan ei labelu ‘Misoedd’; a’r echelin fertigol gan ei labelu ‘Oriau o heulwen’
rhannu’r echelinau’n raddfeydd addas – 6 a 9 yw’ch rhifau lleiaf a mwyaf, felly gallai’ch graddfa fod yn un sgwâr am un awr
plotio’r pwyntiau o’ch data, gan ddefnyddio pensil a gwneud croesau bach
tynnu llinell rhwng y pwyntiau gan ddefnyddio pren mesur
rhoi teitl i’ch graff, fel ‘Oriau o heulwen mewn cyrchfan gwyliau dros gyfnod o chwe mis’.
Dylai’r graff llinell gorffenedig edrych rhywbeth fel hyn:
Yr atebion i’r cwestiynau:
Awst yw’r mis mwyaf heulog.
Mai yw’r mis lleiaf heulog.
Edrychwch ar y graff llinell canlynol. Weithiau mae’n gwneud synnwyr creu graff ar dudalen ar draws yn hytrach nag ar i fyny.
Crynodeb
Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu sut i gyflwyno data mewn graffiau llinell.