1.1 Rhifau positif a gwerth lle
Dewch inni edrych yn fwy manwl ar rifau positif.
Mae gwerth lle digid mewn rhif yn dibynnu ar ei safle neu le yn y rhif:
Gwerth yr 8 yn 58 yw 8 o unedau.
Gwerth y 3 yn 34 yw 3 o ddegau.
Gwerth y 4 yn 435 yw 4 o gannoedd.
Gwerth y 6 yn 6 758 yw 6 o filoedd.
Gweithgaredd 1: Gweithio gyda gwerth lle
- Ysgrifennwch 4 025 mewn geiriau.
M | C | D | U |
---|---|---|---|
4 | 0 | 2 | 5 |
Ateb
4 025 mewn geiriau yw pedair mil a dau ddeg pump.
- Ysgrifennwch chwe mil, pedwar cant a saith deg dau mewn ffigurau.
M | C | D | U |
---|---|---|---|
chwech | pedwar | saith | dau |
Ateb
Chwe mil, pedwar cant a saith deg dau mewn ffigurau yw 6 472.
Dyma ganlyniadau etholiad i fod yn llywodraethwr ysgol yn Ysgol Hawthorn:
- John Smith: 436 o bleidleisiau
- Sonia Cedar: 723 o bleidleisiau
- Pat Kane: 156 o bleidleisiau
- Anjali Seedher: 72 o bleidleisiau
Pwy enillodd yr etholiad?
Gwiriwch eich ateb gyda’n hadborth cyn mynd ymlaen.
Ateb
Y person sy’n ennill yr etholiad yw’r un sy’n cael y nifer fwyaf o bleidleisiau.
Er mwyn canfod y nifer fwyaf, mae angen inni gymharu gwerth digid cyntaf pob rhif. Os yw’r digid hwn yr un peth ar gyfer unrhyw rai o’r rhifau, yna mae angen inni fynd ymlaen i gymharu gwerth yr ail ddigid ym mhob rhif, ac yn y blaen.
- Gwerth y digid cyntaf yn 436 yw 4 o gannoedd.
- Gwerth y digid cyntaf yn 723 yw 7 o gannoedd.
- Gwerth y digid cyntaf yn 156 yw 1 cant.
- Gwerth y digid cyntaf yn 72 yw 7 o ddegau.
Mae cymharu gwerthoedd digid cyntaf pob rhif yn dweud wrthym mai 723 yw’r nifer fwyaf, felly Sonia Cedar yw enillydd yr etholiad.