1.5 Gweithio gyda rhifau cyfan
Mae’r gweithgareddau canlynol yn cynnwys popeth yn yr adran rhifau cyfan. Wrth ichi roi cynnig ar y gweithgareddau, chwiliwch am eiriau allweddol i ganfod yr hyn mae’r cwestiwn yn gofyn ichi ei wneud.
Cofiwch wirio’ch atebion pan fyddwch wedi cwblhau’r cwestiynau.
Gweithgaredd 5: Edrych ar rifau
Edrychwch ar y pennawd papur newydd hwn:
Ffigur 3 Pennawd papur newydd- a.Pa rif a gaiff ei gynrychioli gan y 9 yn y pennawd papur newydd?
- b.Faint o filoedd sydd?
- c.Edrychwch ar y manylion isod. Pwy enillodd y gystadleuaeth Sêr y Byd Pop?
- Will: 4 850 000 o bleidleisiau
- Gareth: 4 803 000 o bleidleisiau
- Edrychwch ar y data yn y tabl canlynol. Mae’n nodi’r tymereddau mewn pum dinas ar ddydd Llun ym mis Ionawr.
Dinas | Tymheredd |
---|---|
Llundain | 0°C |
Paris | –1°C |
Madrid | 10°C |
Delhi | 28°C |
Moscow | –10°C |
-
- a.Pa ddinas oedd oeraf?
- b.Pa ddinas oedd gynhesaf?
- c.Faint o ddinasoedd sydd â thymheredd o dan 5°C?
Ateb
- Mae’r atebion fel a ganlyn:
- a.9 miliwn
- b.653 mil
- c.Will
- Mae’r atebion fel a ganlyn:
- a.Moscow
- b.Delhi
- c.Llundain, Paris a Moscow