1.6 Adio a thynnu rhifau mawr
Adio
Rydym yn adio rhifau mawr yn yr un ffordd ag yr ydym yn adio rhifau llai:
Gwylio’r fideo ar.
Gweithgaredd 6: Adio rhifau cyfan
Cwblhewch y tasgau canlynol heb ddefnyddio cyfrifiannell:
- 8 936 + 453
- 3 291 + 2 520
- 35 + 214 + 9 963
- 28 550 + 865
- 243 552 + 64 771
- 698 441 + 323 118
Cofiwch y gallwch wirio’ch cyfrifiadau trwy ddefnyddio’r dull gwrthdro, sy'n golygu defnyddio’r math dirgroes o swm i wirio bod eich ateb yn gywir. Er enghraifft, gallwch ddefnyddio’r dull tynnu i wirio bod cyfrifiad adio’n gywir:
630 + 295 = 925 (adio)
925 – 295 = 630 (tynnu er mwyn gwirio)
Ateb
Mae’r atebion fel a ganlyn:
- 9 389
- 5 811
- 10 212
- 29 415
- 308 323
- 1 021 559
Tynnu
Mae dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio i dynnu rhifau Mae angen ichi ddod o hyd i’r dull sy’n gweithio i chi.
Dull Dadelfennu
Er enghraifft:
843 – 266
Dilynwch y camau canlynol:
a.Dechreuwch gyda’r unedau: tynnwch 6 o 3. (Ni ellir gwneud hyn).
b.Mae pedwar deg yn y golofn degau. Gellir rhoi un o’r rhain i’r golofn unedau.
c.Os caiff 10 ei adio i’r 3 gwreiddiol, nawr mae 13 gennym yn y golofn unedau: 13 – 6 = 7.
d.Caiff 7 ei nodi ar y llinell ateb yn y golofn unedau.
a.Nawr symudwch ymlaen at y golofn degau: tynnwch 6 o 3. Dim ond tri o ddegau sydd ar ôl, oherwydd cafodd un 10 ei adio i’r golofn unedau (Ni ellir gwneud hyn).
b.Mae wyth o gannoedd yn y golofn cannoedd. Trwy dynnu un o’r golofn cannoedd a’i symud i’r golofn degau, mae’n rhoi 13 yn y golofn degau: 13 – 6 = 7.
c.Caiff 7 ei nodi ar y llinell ateb yn y golofn degau.
a.Erbyn hyn mae 7 yn y golofn cannoedd.
b.Tynnwch 3 o 7: 7 – 2 = 5.
c.Caiff hyn ei nodi ar y llinell ateb yn y golofn cannoedd.
Yr ateb terfynol yw 577.
Mae angen ichi fod yn ofalus wrth geisio tynnu â seroau; er enghraifft, 800 – 427. Mae’r fideo canlynol yn dangos y dull dadelfennu’n llawn, gan gynnwys ymdrin â seroau:
Gwylio’r fideo ar.
Y dull ‘benthyg a thalu’n ôl’
Er enghraifft:
765 – 39
Dilynwch y camau canlynol:
Dechreuwch gyda’r unedau. Ni allwch dynnu 9 o 5.
Rydych yn benthyg 10 i’w wneud yn 15.
Nawr eich bod wedi benthyg, rhaid ichi ‘dalu’n ôl’ trwy ychwanegu 1 i golofn degau y rhif rydych yn ei dynnu. Mae hyn yn cynyddu’r ddau rif gan ddeg (5 + 10 = 15 and 39 + 10 = 49). Mae’r gwahaniaeth yn aros yr un peth.
Gweithgaredd 7: Tynnu rhifau cyfan
Cwblhewch y gweithgaredd hwn gan ddefnyddio’r dull tynnu sydd fwyaf cyfarwydd ichi. Peidiwch â defnyddio cyfrifiannell.
- 9 965 – 742
- 8 163 – 7 481
- 27 364 – 9 583
- 600 987 – 4 500
- 975 046 – 74 308
- 587 342 – 369 453
Cofiwch y gallwch wirio’ch cyfrifiadau trwy ddefnyddio’r dull gwrthdro, sy'n golygu defnyddio’r dull tynnu i wirio bod eich ateb i gyfrifiad adio’n gywir. Er enghraifft:
630 + 295 = 925 (adio)
925 – 295 = 630 (tynnu i wirio)
Ateb
Mae’r atebion fel a ganlyn:
- 9 223
- 682
- 17 781
- 596 487
- 900 738
- 217 889