Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 1
Mathemateg bob dydd 1

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.7 Lluosi

Lluosi â 10, 100 a 1 000

×10

Er mwyn lluosi rhif cyfan â 10, rydym yn ysgrifennu’r rhif ac yna’n ychwanegu sero ar y diwedd. Er enghraifft:

2 × 10 = 20 (2 × 1 = 2, yna ychwanegu sero)

6 × 10 = 60

10 × 10 = 100

×100

Pan rydym yn lluosi rhif cyfan â 100, rydym yn ychwanegu dau sero ar ddiwedd y rhif. Er enghraifft:

3 × 100 = 300

25 × 100 = 2 500

60 × 100 = 6 000

×1 000

Pan rydym yn lluosi rhif cyfan â 1 000, rydym yn ychwanegu tri sero ar ddiwedd y rhif. Er enghraifft:

4 × 1 000 = 4 000

32 × 1 000 = 32 000

50 × 1 000 = 50 000

Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol:

Gweithgaredd 8: Lluosi rhifau cyfan â 10, 100 a 1 000

Nawr rhowch gynnig ar y canlynol:

  1. 7 × 10
  2. 32 × 10
  3. 120 × 10
  4. 8 × 100
  5. 21 × 100
  6. 520 × 100
  7. 3 × 1 000
  8. 12 × 1 000
  9. 45 × 1 000
  10. Mae ysgrifbinnau’n costio 31 ceiniog yr un. Beth fyddai cost pecyn o ddeg ysgrifbin?
  11. Mae archfarchnad yn prynu bocsys o rawnfwyd mewn sypiau o 100. Os yw’n prynu 19 swp, faint o focsys yw hynny?
  12. Mae saith o bobl yn ennill £1 000 yr un ar y loteri. Faint o arian yw hwn i gyd?

Ateb

  1. 70
  2. 320
  3. 1 200
  4. 800
  5. 2 100
  6. 52 000
  7. 3 000
  8. 12 000
  9. 45 000
  10. 310 o geiniogau (neu £3.10)
  11. 1 900 o focsys o rawnfwyd
  12. £7 000