Rhannu byr a rhannu hir
Rhannu byr
Gwyliwch y fideo canlynol am rannu byr i’ch helpu i gwblhau’r gweithgaredd:
Gwylio’r fideo ar.
Gweithgaredd 13: Rhannu rhifau cyfan (rhannu byr)
Cyfrifwch y canlynol:
969 ÷ 3
3 240 ÷ 8
7 929 ÷ 9
34 125 ÷ 5
14 508 ÷ 8
80 225 ÷ 4
Mae syndicet o chwech yn ennill £135 000 ar y loteri. Faint fydd pob person yn ei gael?
Mae ffatri yn rhoi 34 000 o fysedd pysgod mewn bocsys o 8. Faint o focsys sy’n cael eu llenwi?
Noder bod gweddillion gan rai o’r atebion.
Ateb
- 323
- 405
- 881
- 6 825
- 1 813 r4
- 20 056 g1
- £22 500 yr un
- 4 250 o focsys
Rhannu hir
Gwyliwch y fideo canlynol am rannu hir i’ch helpu i gwblhau’r gweithgaredd:
Gwylio’r fideo ar.
Gweithgaredd 14: Rhannu rhifau cyfan (rhannu hir)
Cyfrifwch y canlynol:
- 648 ÷ 18
- 377 ÷ 29
- 298 ÷ 14
- 1 170 ÷ 18
- 42 984 ÷ 12
- Mae Siân yn ennill £12 540 y flwyddyn. Faint mae hi’n ei ennill pob mis?
- Mae Alun yn prynu car sy’n costio £8 550. Mae eisiau talu amdano dros 15 mis. Faint fydd e’n ei gostio pob mis?
Nawr gwiriwch eich cyfrifiadau gyda chyfrifiannell cyn edrych ar yr atebion.
Ateb
- 36
- 13
- 21 r4
- 65
- 3 582
- £1 045 y mis
- £570 y mis