1.9 Nodyn ar y pedwar gweithrediad
Adio, tynnu, lluosi a rhannu yw’r pedwar gweithrediad. Byddwch eisoes yn defnyddio’r rhain yn eich bywyd pob dydd (p’un a ydych chi’n sylweddoli hynny ai peidio!). Mae bywyd pob dydd yn gofyn inni ddefnyddio mathemateg trwy’r amser – er enghraifft, gwirio eich bod wedi cael y newid cywir, gweithio allan faint o becynnau o deisennau mae arnoch eu hangen ar gyfer parti pen-blwydd i blentyn, a rhannu’r bil mewn bwyty.
- Defnyddir adio (+) pan rydych eisiau canfod cyfanswm dau swm neu fwy.
- Defnyddir tynnu (−) pan rydych eisiau canfod y gwahaniaeth rhwng dau swm, neu faint sydd gennych yn weddill ar ôl defnyddio maint penodol. Er enghraifft, os ydych eisiau canfod faint o newid sy’n ddyledus ichi ar ôl gwario swm o arian.
- Hefyd defnyddir lluosi (×) ar gyfer cyfansymiau a symiau, ond pan mae mwy nag un o’r un rhif. Er enghraifft, pe baech chi’n prynu pum pecyn o afalau sy’n costio £1.20 yr un, i ganfod cyfanswm yr arian y byddech yn ei wario, y swm fyddai 5 x £1.20.
- Defnyddir rhannu (÷) pan rydych yn rhannu neu’n grwpio eitemau. Er enghraifft, er mwyn canfod faint o deisennau toes y gallwch eu prynu gyda £6 os yw un deisen yn costio £1.50, byddech yn defnyddio’r swm £6 ÷ £1.50.
Gwirio cyfrifiadau
Dylech ailwirio’ch cyfrifiadau bob amser gan ddefnyddio dull arall. Mae yna ddulliau gwahanol y gallwch eu defnyddio, a bydd yr un a ddewiswch yn dibynnu, yn ôl pob tebyg, ar y cyfrifiad.
Un ffordd dda iawn o wirio cyfrifiadau yw gwneud y cyfrifiad tuag yn ôl, neu gyfrifiad gwrthdro fel y’i galwyd yn gynharach yn y sesiwn hwn. Dyma ble rydych yn defnyddio’r math dirgroes o swm (neu’r gweithrediad dirgroes) i wirio’ch ateb:
- Mae adio (+) a thynnu (–) yn weithrediadau dirgroes.
- Mae lluosi (×) a rhannu (÷) yn weithrediadau dirgroes.
Os yw’ch gwiriad yn rhoi’r un ateb, mae’n golygu bod eich swm gwreiddiol yn gywir hefyd. Er enghraifft, efallai y byddwch wedi gwneud y cyfrifiad canlynol:
200 – 168 = 32
Un ffordd o’i wirio fyddai:
32 + 168 = 200
Fel arall, pe baech chi eisiau gwirio’r cyfrifiad canlynol:
80 × 2 = 160
Un ffordd o’i wirio fyddai:
160 ÷ 2 = 80
Crynodeb
Yn yr adran hon, rydych wedi:
- dysgu sut i ddarllen ac ysgrifennu rhifau positif, eu rhoi mewn trefn a’u cymharu
- edrych ar ffyrdd gwahanol o ddefnyddio rhifau negatif mewn bywyd pob dydd
- gwneud cyfrifiadau
- dysgu sut i ddefnyddio’r dull gwrthdro i wirio atebion.